Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Asth oi ystâd yn feddiant i'w nai, Thomas Hughes, Ysw. Castell Du. Yr oedd er ys blynyddau wedi darparu claddfa fechan, a bedd hefyd, mewn cae nid ym mhell oddi wrth ei dy. Ac yno y mae y gwr talentog, dysgedig, medrus, a thynergalon, Mr. Jones o'r Neuadd, yn huno. Rhoddodd Eisteddfod Llanbedr wobr o ddeg punt am y farwnad oreu iddo.

JONES, WILLIAM, gynt gweinidog yr Annibynwyr, yn Nhrawsfynydd, a aned ym mhlwyf Lledrod, Medi 15, 1760. Yr oedd yn frawd i Theophilus Jones ag ydym wedi gofnodi yn barod. Bu yn Ysgol Ystrad Meirig, a daeth yn yagolor lled dda. Ymunodd â'r Trefnyddion, a daeth yn bregethwr lled dderbyniol. Yr oedd ei dad yn gyfaill neillduol i Richard Tabbot, o Lan Bryn Mair, ac efo a gafodd lythyr oddi wrth y brodyr yng Ngheredigion i fyned i Lan Bryn Mair. Aeth yn y flwyddyn 1789 i weinidogaethu i Biwmares, Mon; ac ar ol bod yno ddwy flynedd, symmudodd i Benystryd, plwyf Trawsfynydd; a bu yno gyda llawer o lwyddiant am naw ar hugain o flynyddau. Bu yn offerynol i sefydlu achos yr Annibynwyr ym Maentwrog. Ar ol bod ar daith trwy y Deheudir, efe a gafodd ei daro yn glaf pan yn pregethu yn y Tywyn. Bu farw Hydref 31, 1830.

LEWES, ERASMUS, ydoedd fab John Lewes, Ysw Gernos. Ganed ef yn 1662. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Iesa, Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn B.C. Cafodd ei benodi yn ficer Llanbedr a Bettws Bledrws yn y flwyddyn 1695, a pharhaodd i lafurio yno hyd ei farwolaeth yn 1745. Yr oedd Mr. Lewes yn Gymreigydd gwych, a bu yn cynnorthwyo Sion Rhydderch yn cyfansoddi ei Eiriadur Seisoneg a Chymraeg. Yr oedd hefyd yn fardd. Mae un gyfrol o'i bregethau mewn llawysgrif yn Llanbedr, ac un arall yn llyfrgell Ioan Cunllo. Yr oedd y diweddar Abel Lewes Gower, Castell Maelgwyn, yn disgyn yn gywir o hono.

LEWES, JAMES, a aned yn Abernant Bychan, plwyf Penbryn. Yr oedd yn fab i Syr John Lewes o'r un lle Cymmerodd ran bwysig yn y Rhyfel Cartrefol o blaid y