Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brenin Siarl II. Yr oedd yn un o'r rhai a benodwyd i gael ei ddyrchafu yn Farchog y Dderwen Freiniol, pe cymmerasai hyny le. Yr oedd yn werth 700p. y flwyddyn. Ei gynrychiolydd yn awr yw Syr Pryse Pryse, Gogerddan. Mae Lewesiaid y Gernos, Llys Newydd, Gelli Dywyll, Tre Defaid, ac ereill, yn hanu o hono.

LEWES, JAMES. Yn ol hen lawysgrif cyhoeddedig yn y Cambrian Register, yr oedd y Milwriad James Lewes o Goedmor yn dilyn bywyd cyhoeddus yn amser y Rhyfel Cartrefol rhwng Siarl II. a'r Senedd.

"James Lewes is a person of an inoffensive facile constitution, forced from a royalist to act as a Colonel for the King and Parliament; seldom out of publique offices, though averse to undertake any, loved more for doing no wrong, than for any good. --Sola socardia innocens."


LEWES, JOHN, o'r Glasgrug, ger Aberystwyth, oedd o'r un cyff achyddol a'r Lewesiaid a goffasom yn barod. Cyhoeddodd lyfr yn 1646 o'r enw Contemplation on these Times, or the Parliament explained to Wales, yn yr hwn y dynoetha yn llym ddiofalwch y llywodraethwyr eglwysig. Bu mewn gobebiaeth & Richard Baxter am gael Prifysgol i Gymru. Gan nad oedd gan ei wyr, James Lewes, un etifedd, aeth ei ystad i'w chwaer Mari, gwraig John Phillips, Dal Haidd.

LEWES, WILLIAM, a aned yng Nglanlais, ger Llanerch Aeron. Yr oedd yn foneddwr cyfoethog, dysgedig, a gwladgarol. Bu yn preswylio am ran o'i oes yn Llwyn Derw, plwyf Llangeler, ac efe oedd ei berchenog. Yr oedd ganddo lyfrgell odidog o lyfrau a llawysgrifau. Dywedai Theophilus Evans, awdwr Drych y Prif Oesoedd, mai yn Llwyn Derw y gwelodd rai o'r llawysgrifau gwerthfawrocaf â welodd yn ei oes. Cyfieithodd Mr. Lewes a Mr. Pryce, Rhyd y Benau, draethawd ar Ddammeg y Mab Afradlawn, gan J. Goodman. Cafodd ei argraffu yng Nghaerfyrddin gan Isaac Carter, y Printiwr, 1725–26. Rhoddodd yn ei ewyllys ryw swm flynyddol at gynnal ysgol ym mhlwyf Llanddewi Aberarth; ond nid ydym yn gwybod beth ddaeth o'r ewyllys hòno; ond ni a welsom gopi o honi. Yr oedd y diweddar John Beynon, Ysw., Castell Newydd