Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae ganddo gywydd yn rhoddi hanes ei fywyd, yn yr hwn y dengys ei fod yn dilyn Siencyn Sion, ei ewythr, mewn barn. Meddai,—

“Hen Galfin ac Arminiws
Gyrais draw goris y drws."

Dengys ei fod yn groes iawn i "hil Galfin drablin dryblwr.” Bu farw Chwefror 4, 1779, yn 54 mlwydd oed.

LLOYD, DAVID, LL.D., ydoedd fab John Lloyd, Llandyssul, ac ŵyr D. Lloyd, Brynllefrith. Ganed ef yn Llandyssul, a chafodd ei anfon o dan ofal y Parch. John Thomas, gweinidog Undodaidd a gadwai ysgol flodeuog yn y lle; a phan tuag ugain oed, cafodd ei dderbyn yn fyfyriwr i Goleg Henadurol Caerfyrddin. Ar ol terfynu ei amser yno, aeth i Brifysgol Glasgow, lle y cafodd, ar ei ymadawiad, ei anrhydeddu a'r radd o A.C. Cafodd ei ethol yn Athraw Clasurol Coleg Caerfyrddin yn 1834. Ym mhen rhai blynyddau, cafodd ei anrhegu gan Brifysgol Glasgow a theitl ychwanegol, sef LL.D. Yr oedd Dr. Lloyd, fel athraw, yn sefyll yn uchel iawn ei glod; ac ni fu dyn erioed yn fwy parchus nag ef yn nhref Caerfyrddin. Byddai bob amser y blaenaf yn y dref gyda phob achos dyngarol; ac yr oedd yn nodedig am ei galon haelionus, parod bob amser i gyfranu at bob achos elusengar, yn gyhoeddus a phersonol. Dysgodd lawer iawn o bobl ieuainc am ddim; a byddai megys tad i'r isel ei amgylchiadau yn y coleg. Yr oedd yn ysgolor clasurol dwfn, ac yr oedd yn meddu gwybodaeth helaeth mewn natur a chelfyddyd. Bu yn traddodi darlithiau ar Seryddiaeth a phynciau dyddorol ereill ar hyd y wlad, a hyny am ddim, er mwyn cefnogi dysgeidiaeth. Ysgrifenodd lawer i'r Ymofynydd ar gelf a gwyddor, yn gystal ag ar bynciau duwinyddol y blaid y perthynai iddi. Yr oedd yn dyn iawn dros ddaliadau yr hen ysgol Undodaidd. Mae yn ddiammheu fod Dr. Lloyd yn gydwybodol ac egnïol am wneyd daioni i'w gyd-ddynion ym mhob modd.

LLOYD, DAVID, Gallt yr Odyn, ydoedd fab Ifan Llwyd o'r un lle, a Mawd ei wraig, ferch Richard Llwyd o Gaio. Priododd D. Lloyd â Mari, ferch Henri Pryse, Abergorlech.