Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn ymlynydd diffuant dros achos y Brenin Siarl y Cyntaf, a gorfu arno gyfran-dalu i'r Senedd am ei ymddygiad. Dygwyd y weithred hono i gyflawnder Rhagfyr 20, 1648. Gorfododwyd ei fab, Evan Lloyd, i dalu y swm o 17p. trwy orfodogi yr ystad. Enwau y dirprwywyr ydynt, Johu Matthews, Thos. Fowle, Henry Eower, James Bery, James Philips, Hector Philips, D. Edwards, John Hughes, &c. Mae yn dra thebyg i Mr. Lloyd fod yng ngharchar Aberteifi, yr un modd ag E. G. Evans, Penwenallt, gan fod y ddirwy i gael ei thalu gan ei fab.

LLOYD, DAVID, fel y tybir, oedd enedigol o Lanwenog. Ymfudodd i America, ac ymsefydlodd yn nhalaeth Pennsylfania. Daeth ym mlaen yn fawr mewn cyfoeth, dysg, a dylanwad, fel y cafodd yn y diwedd ei benodi yn brif ynad y dalaeth. Iddo ef y cyflwynwyd Mynegair yr enwog Abel Morgan.

LLOYD, DAVID AB LLYWELYN, o Gastell Hywel, oedd y pummed ach o Wilym Llwyd o'r un lle. Efe a fu yr aelod seneddol cyntaf dros Geredigion, sef yn amser Harri VIII.

LLOYD, FRANCIS Marchog, oedd fab Syr Marmaduke Lloyd, o Faes y Felin, Llanbedr. Cafodd, fel ei dad, ei wneyd yn Farchog. Cymmerodd ran helaeth yn helyntion ei wlad. O blegid ei ymlyniad wrth y brenin, ymgiliodd o'r Senedd yn 1643, a thalodd ddirwy drom yn y Goldsmith's Hall. Mewn hen lyfr o'r enw Memoirs of Charles I., cawn fod y ddirwy yn 1033p. Mae y cofnod a ganlyn am Syr Francis wedi ei ysgrifenu tua'r flwyddyn 1661:

"Sir Francis Lloyd, a lover of monarchy, which drew from the Long Parliament about 1643, paid a fine at Goldsmith's Hall, seems to love his private ease above the publique affares of his country."

Bu Syr Francis yn briod ddwywaith; y waith gyntaf â Mary, merch John Vaughan, Iarll Carbery, o'r Gelli Aur; yr ail waith a Bridget, merch R. Leigh o Gaerfyrddin. Cafodd Syr Francis, ar ol yr adferiad, ei wneyd yn un o foneddigion Ystafell Gyfrin Siarl II.

LLOYD, GRIFFITH, oedd ail fab Huw Llwyd o Lanllyr, o deulu Llwydiaid Castell Hywel. Cafodd ei addysgu