Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ran ei gorff yn dal, yn llawn chwe troedfedd, ac yn siriol iawn ei wynebpryd. Aeth cyn diwedd ei oes yn rhyfeddol o dew. Yr oedd yn groes iawn i enllib. Dywedai yn union wrth yr enllibiwr, fod y sawl a enllibai yn llawer gwell dyn nag ef. Ond os deallai fod rhyw fai ar y sawl a gyhuddid, efe a fynegai ei fai yn ei wyneb, gan hysbysu pwy oedd wedi dywedyd wrtho. Dywedodd ei dad yng nghyfraith wrtho y prydnawn y priododd, fod Mrs. Lloyd wedi bod yn cael holl lywodraeth y ty er pan bu farw ei mam, gan ofyn a gelai hi barhau felly. Atebodd yntau yn siriol y celai. Yr oedd Mr. Lloyd werth amryw gannoedd y flwyddyn oddi wrth ei ystâd, ac yr oedd yn eu defnyddio i wneyd lles i'w gyd-ddynion. Yr oedd Cilpill pryd hyny fel yspytty fawr i'r holl wlad - gwreng a bonedd - groesaw i bawb-bwyd a diod yn ddiderfyn - groesaw a bendith i bawb, a Chilpill yn fendigedig ym mynwes y wlad.

LLOYD, JENKIN, oedd fab Dafydd Llwyd o'r Faerdref Fawr, plwyf Llandyssul, a Jane ei wraig, merch Rhydderch ab Rhydderch, o Bantsbreimon. Dygwyd ef i fyny i'r weinidogaeth yn Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn y celfyddydau, a daeth yn offeiriad ei blwyf genedigol yn amser Siarl I. Priododd ag Elin, merch D. Llwyd o'r Gernos. Yr oedd yn cymmeradwyo mesurau Cromwel; ac yr oedd yn un o'r prawfwyr dan y "Weithred er Lledaeniad. yr Efengyl." Cyhoeddodd lyfr bychan o'r enw Christ's Valediction; or Sacred Observations on the Word of our Saviour delivered on the Cross, 1658. Cynnwysa 220 o dudalenau, ac wyth o ragddalenau, plygiad bychan. Bu farw tua'r flwyddyn 1660. Bu ganddo fab o'r enw John Lloyd, yr hwn a briododd ferch Morgan Herbert o'r Hafod Ychdryd. Bu farw heb etifedd, ac aeth ystâd y Faerdref i feddiant chwaer ei dad, yr hon oedd wraig yn Llanerch Aeron, lle yr erys hyd heddyw, gyda'r eithriad o rai lleoedd a werthwyd.

LLOYD, JOHN, or Cilgwyn, plwyf Llandyfrïog, oedd foneddwr uchel ei glod yn ei wlad, ac yn noddwr gwresog i'r beirdd. Yr oedd yn bleidiwr gwresog i Siarl y Cyntaf.

"John Lloyd, a royalist of an even temper, quitted all offices in 1643, compounded for delinquency, liveth a retired hospitable life, neither ambitious, nor a contemner of those publique employments that his fortune and capacity to deserve."