Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

165

Mae yn debyg fod y boneddwr hwn mewn gwth o oedran y pryd hyn (1643), o blegid y mae o'n blaen gywydd o glod iddo a ysgrifenwyd gan y bardd Owain Gwynedd, yr hwn a flodeuai rhwng 1550 a 1590.

LLOYD, JOHN, A.C., oedd fab D. Llwyd, Ysw., Gallt yr Odyn. Dygwyd ef i fyny yn Rhydychain, a chafodd bersoniaeth Llanarth. Yr oedd yn fardd Seisonig o gryn rwyddineb. Mae Meyrick, yn ei hanes o Geredigion, wedi rhoddi i mewn bennillion a wnaeth ar ddyrchafiad Syr Herbert Lloyd yn farwnig. Maent yn bur wawdlyd; a dywedir na ddeallodd mo'r barwnig yr amcan, ac iddo gyflwyno y bardd i Dr. Squire, esgob Ty Ddewi, ac iddo felly dderbyn bywoliaeth Llanarth. Daeth allan ddau fardd arall, ac un o honynt a ymosododd yn ffyrnig ar yr esgob; a dywedir i ddarlleniad y cyfryw fod yn achos o'i farwolaeth. Beth bynag, Iarll Lisburn, ac nid Syr Herbert, a gymmeradwyodd y bardd Llwyd i'r esgob.

LLOYD, JOHN, a aned yn Abertegan, Llanwenog, yn 1744. Hanai o Lwydiaid y Bwlch Mawr, a Chastell Hywel. Yr oedd Sion Llwyd yn glochydd Llanwenog, ac yn un o gerddorion enwocaf y wlad yn ei oes. Meddiaonai wybodaeth helaeth, ac fel crefyddwr, yr oedd yn ddiwyd a bucheddol; a bu yn offerynol i ddyrchafu sefyllfa grefyddol Llanwenog fel cerddor a Christion. Perthynai tua deugain o'r Llwydiaid i'w gôr yn yr Eglwys. Yr oedd hefyd yn hynafiaethwr gwych. Efe a gafodd allan weddillion hynafol Capel Santesau, ar lan Teifi, a gwyddfaen nodedig, ac arno lythyrenau "ogham" Cofnododd wmbredd dirfawr o wahanol gofion hynafiaethol; ac efe oedd ysgrifenydd yr hen fardd "Ffranc Ddall y Crwthwr." Bu farw yn 1825. Wŷr iddo yw y Parch..D. Lloyd Isaac, Llangathen.

LLOYD, JOHN, oedd etifedd Walter Lloyd o Ffynnon Bedr, ac efe a'i dilynodd yn ei gyfoeth, ac yn y swydd o gyfreithiwr cyffredinol swyddi Caerfyrddin, Penfro, a Cheredigion. Bu yn aelod seneddol dros Geredigion, o 1747, hyd ei farwolaeth, yn 1755. Ei wraig oedd Elisabeth,