Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cadifor ab Dinawol â Gweithfoed Fawr. Daeth Ffynnon Bedr a Llechwedd Deri iddo yn etifeddiaeth ei wraig. Cafodd ei ddwyn i fyny yn gyfreithiwr, a daeth yn Gyfreithiwr Cyffredinol siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin. Bu yn aelod seneddol dros Geredigion o 1734 hyd 1741. Bu farw 1744, a chladdwyd ef yn Llanbedr.

LLWYD, EDWARD, a aned, mae yn debyg, yng Nglanffraid, Llanfihangel Geneu'r Glyn. Enw ei dad oedd Edward Llwyd, o Lanfwrda, ger Croesoswallt, ac enw ei fam oedd Bridget, ail ferch Pryse, Ysw., Glanffraid. Yn anffodus, ni fu ei rieni yn briod. Ei dad oedd foneddwr o gyfoeth, ond yn ddyn lled afreolus ei fywyd. Cafodd E. Llwyd ysgol dda yn ei ardal enedigol ; ac ar ol hyny, aeth i Goleg Iesu, Rhydychain, Hyd. 31, 1683, ac a urdd-aelodwyd Tach. 17, yn yr un flwyddyn. Yr oedd wedi dangos tuedd gref at hanes anianol cyn iddo ddyfod yn aelod o'r Brifysgol; o blegid yn y flwyddyn hon gophenwyd llyfrgell i haeledd Mr. Ashmole, ac anfonwyd ei gasgliad i Rydychain, ac a ymddiriedwyd i ofal R. Plott, LL.D. Yn y flwyddyn ganlynol, hwy a gadarnhawyd i'r Brifysgol gan lythyr y sylfaenydd; ac yn 1681, rhoddwyd Mr. Llwyd ar waith i drefnu y mathau a chymharu y cofrestri. Yn y sefyllfa hon o is-geidwad, efe a barhaodd hyd 1694, gan gasglu a rhestru mewn hanes naturiol, yn ol fel y mae yn ein hysbysu yn y rhagymadrodd o'r Lythophylacium Britannicorum, pryd yr esgynodd yn ben- ceidwad, yr hon swydd a ddaeth yn wag trwy ymddiswyddiad ei gyfaill a'i noddwr, Dr. Plott Bu yn llwyddiannus yn yr efrydiaeth hon tra yn dal y swydd o ben-ceidwad. Mae yn amlwg iddo ymweled â phob rhan o Brydain, neu fod ganddo ohebwyr arbenig. Yn 1693, cafodd ei osod i gasglu defnyddiai perthynol i Gymru, ar gyfer argraffiad newydd o Camden's Britannia, ar ddymuniad ac ar draul Mr. Gibson. Ymddengys iddo tua'r amser hwn fwriadu ymweled a Llydaw, ond ym mha gylch, nid yw yn eithaf hysbys; ond yn benaf, mae yn debyg, mewn ymchwiliad am hynodion natur. Daeth yn hysbys i'r holl fyd yn y . wyddor hòno, ac mewn hynafiaeth. Efe a ddechreuodd