yn y flwyddyn 1696, ac aeth allan i Gymru, gan beidio pasio dim cywrain neu ddefnyddiol ar ei ffordd. Dychwelodd i Rydychain yn 1697, gan ddwyn ganddo ran o'r casgliad mawr hwn o gloddion (fossils) Cymreig, y rhai sydd yn awr yng nghadw yn ystafell isaf y Gronfa; ond ni fu byw i'w trefnu. Yn 1698, yr ydym yn cael ei fod mewn gwahanol ranau o Gymru a siroedd cyffiniol Lloegr. Yn y flwyddyn hon y gorphenodd ei Lythophylacium Britannicorum, yr hwn a ddysgwyliai y buasai y Brifysgol yn argraffu ar ei thraul ei hun; ond cafodd ei siomi; ac ef allai na fuasai byth wedi cael ei gyhoeddi, pe na fuasai rhai noddwyr boneddig a dysgedig wedi cymmeryd at y gorchwyl ar eu traul eu hunain. Dim ond chwe ugain â gafwyd allan ar draul yr Arglwydd Ganghellydd Somers, Iarll Dorset, Arglwydd Halifax, Syr Isaac Newton, Syr Hans Sloane, Dr. Ashton, Dr. Geofray, o Paris, Dr. Martin Lister, Tancred Robinson, o dan olygiaeth yr olaf Gan nad oedd gan y boneddwr y profiadau wrth law o'r hyn bethau ag oedd yn traethu, na'r awdwr i ymresymu ag ef, daeth allan mor llawn o wallau fel yr oedd yn ofynnol cael ailargraffiad o hono. Cawn ei fod ym Mon yn y flwyddyn 1696, yn ymweled a'i gyfaill mynwosol, Mr. H. Rowlands, awdwr y Mono Antiqua. Yn fuan ar ol hyn, cawn ei fod yn yr Alban; ac yn dechreu y flwyddyn ganlynol yn yr Iwerddon. Dychwelodd o'r Iwerddon yn 1700, gan fyned i Gernyw i astudio y Gernywaeg, a chasglu planigion a chloddion hynod. Mewn llawn awydd, efe a groesodd y Môr Udd, er mwyn chwilio hynafiaethau Llydawaidd ar Arfordir Ffrainc. Cafodd ei gymmeryd i fyny fel ysbïwr. Cymmorwyd ymaith ei bapyrau, a gosodwyd yntau yn y carchar yng nghastell Brest. Yn y modd hyn, gosodwyd attalfa ar ei ymchwiliadau, a bu dan orfod i ymadael a'r deyrnas wedi ei niweidio a'i fawr anfoddloni, trwy weled rhy fach o golofnau hynafol y wlad, a gormod o foesau barbaraidd diweddar. Dychwelodd i Rydychain yng ngwanwyn 1701, wedi casglu digon o ddefnyddiau at y gwaith oedd wedi addaw gymmeryd mewn llaw. Ceisiodd ei gyfaill, Mr. H. Foulks, ganddo gyhoeddi hanes byr o'i
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/183
Gwedd