Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Art. 5; No. 314, No. 316, art. 6; No. 335, Art. 3 and 4; No. 366, Art 3 and 4."

Y saith olaf, er wedi eu hysgrifenu yn hir o'r blaen, a ddodwyd i mewn yn ei Philosophical Transaction ar ol ei farwolaeth. Cyhoeddodd hefyd Catalogus Librorum Manuscriptorum in Museo Ashmoleano, yn upplyg, yn ddeg llen, yn rhwym, gyda llechres o lawysgrifau Lloegr. A set of Parochial Queries, mewn trofn i orphen Hanes Gymru. The Life of Elias Ashmole, Carmen Britannicum Dialects Cornub, ad Normana Poetarum Seculi Sexti, in the Oxford Verses in Obit. Guliel. Tertii, &c. A catalogue of local words, paralleled with British or Welsh, published in Ray's Collection of English Words, not generally used. De Fluviorum, &c., in Britannia Nominibus Adversari. Cyhoeddwyd darn o hwn ar ol ei farwolaeth yn niwedd Baxter's Glossary. Praelectio de Stellis Marinis Britannici Oceani, habit in Mus. Ashmol., mewn canlyniad o'i addewid i'r brif ysgol, pan gafodd ei greu yn A.C. Mae ei lafur i'w weled ym mhellach yn Ray's Historia Conchyliorum, Baxter's Glossary, a Nicholson's Historical Library, &c.

Yr oedd ei gasgliadau at ail gyfrol, yn yr hon yr oedd hanes hynafiaethau, cofgolofnau, &c., yn nhywysogaeth Cymru, yn lluosog a gwerthfawr; ond o herwydd anghytundeb rhyngddo a Dr. Wynn, pryd hyny cymmrawd o'r coleg, efe a nacaodd eu prynu; a hwy a brynwyd gan Syr Thomas Seabright o Blackwood, swydd Henffordd, yn yr hon lyfrgell yr arosodd y rhan fwyaf o honynt. Nid oeddynt' yn barod i'w cyhoeddi. Cafodd Dr. Woodward yn wrthwynebydd a gelyn cyndyn. Ymdrechodd a'i holl egni glas i wrthwynebu Mr. Llwyd i gael ei dderbyn yn aelod o'r Gymdeithas Freninol; ond yr oedd gan y Cymro dysgedig ormod o gyfeillion yn bresennol i'w wrthwynebydd lwyddo yn ei amcan bawlyd. Gwnaeth Woodward fwy o ddrwg iddo ei hun nag i Mr. Llwyd; a chafodd ei adael allan o'r cynghor y flwyddyn ddilynol. Yr oedd y cynnorthwy a gafodd ar y Cyntaf yn dra chalonog — yn y flwyddyn 1696, 110p.; 1697, 81p.; 1699, 69p.; ond erbyn 1700, lleihaodd gymmaint ag i'w analluogi i barhau. Ei brif gyfaill oedd Dr. Lister. Ym mhlith gohebwyr