Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Llwyd mae yr enwau uchel a ganlyn:--Antis, Baxter, Flaherty, Gibson, Hicks, Humphreys, Le Neve, Nicholson, Rowlands. Smith, Tanner, Sibbald, Archer, Cole, Dale, Lister, Morton, Molineaux, Ray, Richardson. Sloane, &o.: tramorwyr-Rivinus, Langius, Alminus, a Scheuter. Yr ydym wedi gorfod talfyru llawer ar hanes y dyn mawr hwn - un o enwogion penaf ein cenedl yn y tri canrif diweddaf. Cadwodd Mr. Llwyd ei enw yn Gymreig, ac ymffrostiai mai ben Brydeiniwr oedd. Meddai,—"I don't profess to be an Englishman, but an old Briton." Ar ol hyny, rhoddai res o'i deidiau hyd Elidyr Lydanwyn ab Meirchion ab Ceneu ab Coel Godebog.

LLWYD, LLYWARCH, Brenin Ceredigion, a flodeuodd yn nechreu y nawfed canrif. Bu farw tua'r flwyddyn 820.

LLYWELYN GRUG ERYR oedd arwyddfardd ac hanesydd enwog yn y pymthegfed canrif. Y mae tebygolrwydd mawr mai gwr genedigol o Llandysilio Gogo oedd.

MADOG AB SELYF oedd arglwydd Ceredigion yn y trydydd canrif ar ddeg. Gwnaeth warogaeth i Lywelyn ab Gruffydd yn y flwyddyn 1270, yn gydunol & brinlen o eiddo brenin Lloegr i'r dyben hwnw, yr hon oedd yn rhoddi i Lywelyn yr hawl o dywysog Cymru. Arfbais Madog oedd az. a wolf sali: argt. Parhaodd yn ei arglwyddiaeth hyd y flwyddyn 1300. Yr oedd hefyd yn fardd enwog.

MAELGWYN AB RHYS oedd drydydd mab Rhys ab Gruffydd, ac yn ddyn o ddewrder yn ei ddydd Drylliodd lawer o gestyll y Seison, ac yr oedd yn dra phoblogaidd yn ei wlad; ond y mae un ysmotyn du ar ei gymmeriad, sef gwrthryfela yn erbyn ei dad, nes y gorfu iddo ei roddi yn y carchar. Ar ol dyfod yn rhydd, cymmerodd gastell Ystrad Meirig. Gwrthryfelodd wedi hyny yn erbyn ei frawd Gruffydd. Gwerthodd gastell Aberteifi i'r Seison. Bu farw yn Llanerch Aeron tra yn adeiladu castell Trefilan, yn 1231. Rhoddodd gyfoeth lawer i fynachlog Ystrad Fflur. Dyddiad y freinlen yw 1198. Claddwyd ef yn Ystrad Ffur.