Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ithel, a wahoddodd Gruffydd ab Rhys o Ystrad Tywi, i ddyfod drosodd yn dywysog ar Geredigion, ac i erlid ffwrdd y Normaniaid o'r wlad. Ar eu cais, daeth Gruffydd atynt, a chasglasant fyddinoedd, ac yn gyntaf, cymmerasant gastell Blaenporth, ac wedyn aethant yn y blaen yn eu rhwysg filwrol, gan gymmeryd castell y Peithyll; ac ni orphwysasant nes adennill y wlad. Cymmerodd y symmudiad le tua'r flwdydyn 1117.

CADIFOR AB GWEITHFOED, Arglwydd Ceredigion. Dilynodd ei dad yn arglwyddiaeth Ceredigion, a Gwynfai yn y flwyddyn 1057. Priododd â Siwan, Merch Elystan, Tywysog Fferle.


CADWGAN AB BLEDDYN ydoedd fab Bleddyn ab Cynfyn o Bowys. Nid ydyw yn eithaf sicr mai yng Ngheredigion y ganwyd y tywysog, er y gallasai hyny fod, ond gan iddo chwareu rhan mor bwysig fel Tywysog Ceredigìon, y mae yn rhesymol ei osod i mewn yma. Yn ol llyfrau yr achau, y mae yn ymddangos fod hawl etifeddol ganddo yng Ngheredigion. Yr ydym wedi traethu yn barod am Angharad, ferch Meredydd, Tywysog y Deheudir. Er mwyn dangos hyny, ni a godwn y dernyn canlynol : —

"Brodyr unfam y tywysawg a las, sef Gruffydd ab Llywelyn, a gawsant Wynedd a Phowys, nid amgen Bleddyn ab Cynfyn ab Gwerystan, Arglwydd Cibwyr, a Rhiwallon ei frawd, hwy a ddoded yn dywysogion Gwynedd a Phowys ym mraint etifeddion tywysogion Dinefwr, o Gadell ab Rhodri Mawr. Sef etifeddes y dywysogaeth hòno ydoedd Yngharad, ferch Meredydd ab Owain ab Hywel Dda, a fu wraig briod Llywelyn ab Seisyllt; a gwedi lladd Llywelyn, hi a briodes Cynfyn ab Gweryetan, Arglwydd Cibwyr yng Ngwent, ab Gweithfoed ab Gloddion ab Gwrydr Hir ab Caradawg ab Llew Llawddeawg ab Ednyfed ab Gwinau ab Gwaenoc Goch ab Cnydion," &c.

"A'r brodyr hyn, sef Bleddyn a Rhiwallawn, a ddygasant deyrnedd gwlad Bowys o wehelyth Brochwel Ysgythrawc, peth nîd oedd iawn ei fod." ( Hanes Cymru gan Carnhuanawc, tud. 443.)