cerddoriaeth. Gramadeg Tansur oedd ei gydymaith gorau, ac yn ol hwn fynychaf yr oedd yn cyfansoddi tonau, yr hwn oedd yn crogi ar benau ei fysedd. Ni thalai bob amser sylw manol i reolau cerdd. Cymmerai weithiau ei arwain gan ei chwaeth yn fwy na chan reol, megys yn y dôn "Wellington," yn yr hon y mae y pummau yn amlwg yn canlyn eu gilydd. Gweler Caniadau Sion gan R Mills. Nid bob amser y buasai yn gochelyd pummau ac wythau cerdd; ond bryd bynag y defnyddiai hwynt, yr oedd prydferthwch a lledneisrwydd i'w canfod a'u teimlo, nes yr oedd braidd yn rhoddi trwydded i'w dwyn i mewn, pan y gallesid yn rhwydd eu hebgor. Collfarnai yn y tonau gwylltion afreolaidd oedd mewn arferiad mewn rhai manau yn ei oes Dywedai am y Delyn Aur, fod "Telyn Bren" yn enw eithaf da iddi. Bu yn cynnal cyfarfodydd canu braidd ym mhob man o dair sir Dyfed, a bu hefyd ym Morganwg, Gwynedd, a Phowys. Bu yn yr Eglwys Sefydledig mewn amryw fannau. Dysgu canu yn briodol, a chael tâl am hyny, oedd ei amcan ef. Pan yn ei gyflawn nerth, byddai bob nos yn rhyw barth o'r wlad. Cofus genym ei glywed unwaith yn dywedyd fod ganddo gôr canu mewn rhyw fan fuasai yn peri i'r organ gywilyddio, pe hyny yn ddichonadwy. Yr oedd yn fedrus a gofalus iawn i gadw yr amser. Dywedai pe canfuasai ddyn ar gopa y Frenni Fawr, yn sir Benfro, yn chwareu yr amser a'i law, y gallasai yntau ganu y đôn hdno ar ben Bryn y Bwa, yng Ngheredigion, heb golli un mymryn o'r amser. Yr oedd enw "Dafydd Siencyn Morgan" yn deuluaidd gan ieuenctyd a hen bobl, ym mhell ac agos; adnabyddid â pherchid ef ym mhob man. Gellir dywedyd na fynegwyd mo'r hanner am yr hen gerddor gwych. Yr oedd rhagorach canu yn y capel y perthynai iddo yn Llechryd nag un arall trwy'r wlad, ac y mae ol yr hen gerddor yno hyd heddyw.
"Nid canwr mursenaidd a diog ei agwedd
Oedd Dafydd ab Siencyn ab Morgan mewn dullwedd;
Yn gymhwys a chymhen yn dadgan yr acen,
Dedwyddwch oedd gwrando ei gân yn ei elfen,