Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwnai drefnu llonnodau i'w lleoedd priodol,
A lleddfu wrth angen, a nodi'r naturiol;
Cynghanedd berseiniol a eiliai y pencerdd,
Nes swyno rhyw filoedd â sain ei felus-gerdd."

Bu farw Tachwedd 18, 1844, yn 92 oed.

(1) Dewi Cynllo oedd ei ffugenw wrth y dôn hòno, am y preswyliai yn Llangoedmor, a bod yr Eglwys hòno yn gyflwynedig i Gynllo Sant.

MORGAN, ENOCH, oedd fab Morgan Rhydderch o'r Allt Goch, plwyf Llanwenog, a brawd i Abel Morgan. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1676. Ymfudodd i America yn 1701. Bu yn weinidog y Bedyddwyr yn Welsh Tract, yn Nhalaeth Pennsylfania; a gorphenodd ei daith yn y flwyddyn 1740. Yr oedd yn wr o dalentau godidog, a mawr ei barch. Yr oedd ganddo fab o'r enw Abel Morgan, yr hwn fu yn weinidog i Eglwys luosog a chyfoethog o Fedyddwyr ym Middleton, Jersey Newydd. Rhydd haneswyr glod uchel iddo fel gweinidog llafurus a thalentog. Dywedir fod y Cadfridog Daniel Morgan yn un o'r teulu hwn. Yr oedd E. M. yn fardd medrus.

MORGAN, JENKIN, gweinidog yr Annibynwyr ym Mhentref Ty Gwyn, a aned ym mhlwyf Llanddewi Aberarth, Chwefror 24, 1762. Derbyniodd ei addysg yng Nghiliau Aeron, a manau ereill. Bu yn weinidog yn Esger Dawe, ac wedi hyny ym Mhentref Ty Gwyn. Bu farw Tachwedd, 1834.

MORGAN, JOHN, M.D., awdwr y Pethagoras, oedd enedigol o blwyf Trefilan. Ni chafodd ond ychydig o fanteision dysg; ond efe a barhaodd gyda dyfalwch mawr i ddysgu ei hun. Dechreuodd ei yrfa feddygol gyda'r enwog Ddr. Morgan, Dolgoch, yn Nhrood yr Aur. Nis gwyddom pa un ai o'r Alban neu ynte o'r America y cafodd ei M.D. Prif bwnc ei oes oedd cymbaru gwahanol ieithoedd, er mwyn dangos hynafiaeth y Gymraeg. Mae ei Advertisory Sketch of Pethagoras yn cynnwys 30 o dudalenau, yr hwn sydd yn dangos llawer iawn o ol ymchwiliad. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, yn Llundain lle y bu farw tua 1850.

MORRIS, DAVID, pregethwr enwog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a anwyd yn y Lledrod. Bu iddo bedwar o blant, o ba rai Ebeneser oedd yr henaf. Dechreuodd bregethu pan yn ddyn ieuanc, tua'r flwyddyn 1765, pan nad oedd ond 21 mlwydd oed; a chyrhaeddodd yn fuan