Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dissenter's Catechisem, gan S. Palmer, yn llyfryn 12plyg; ac yn 1816, ei brif waith lenyddol, sef Hanes Crefydd yng Nghymru, yn 8plyg. Daeth ailargraffiad o hono allan o Golwyn, yn 1851; ond nid yw'r argraffiad hwnw hanner cystal ei argraffwaith a'r un cyntaf. Y mae y llyfr hwn yn drysor gwerthfawr yn llyfrgell y Cymro. Cyhoeddodd hefyd bregeth oddi ar Esai xxi. 11. Bu farw Mai 4, 1837, gan adael ar ei ol barch mawr gan bob dosbarth o ddynion.

PETER, DAVID, a aned yn Rhyd y Pandy, plwyf Llanbadarn Odwyn. Bu yn yr ysgol yng Nghaerfyrddin, a daeth yn rhifyddwr a thir-fesurydd enwog. Bu yn cadw ysgol am ugain mlynedd dan yr enwog Johnes o'r Hafod; ac wedi hyny yn Llanddewi Brefi. Cyhoeddodd lyfr hymnau, yr hwn a ddengys ei fod yn brydydd go dda Mae y Parch. A. Oliver, Llanddewi Brefi, a'i frawd, y Parch. D. Oliver, Twr Gwyn, yn wyron iddo.

PHILLIPS, JAMES, o'r Priordy, Aberteifi, oedd fab Hector Phillips, Ysw., o'r un lle. Hanent o Phillipsiaid Cilsant, ac yn gywir o Gadifor Fawr. Chwareuodd James Phillips ran gyhoeddus yn y Rhyfel Cartrefol yn amser y Siarliaid a Chromwel. Dywedir ei fod fynychaf mewn swydd yn amser Siarl a Chromwel. Yr oedd yn briod a'r brydyddes Seisonig enwog a wisgai yr enw "Orinda." Ymddangosodd cyfrol o'i barddoniaeth yn 1667. Ysgrifnnodd hefyd Letters from Orinda to Poliarchus, sef ei chyfaill Syr Charles Cottorel, a chyhoeddwyd ef yn 1705. Trwy gynnorthwy larll Dorset a Waller, cyfieithodd Tragedy of Pompey, o Ffrancaeg Corneil. Ysgrifenodd Iarll Roscommon ragymadrodd iddo. Ysgrifenwyd cerdd ar ei marwolaeth gan Cowley. Yr oedd amgylchiadau James Phillips yn ddyryslyd, a gorfu ar Mrs. Phillips dreulio llawer o'i hamser yn yr Iwerddon. Yr oedd Mrs. Phillips yn enedigol o Lundain.

PHILLIPS, JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn y Drewen, oedd fab y Dr. Phillips, o Neuadd Lwyd. Ganed ef yn yr ardal hòno. Cafodd ei ddwyn i fyny yn grefyddol, ac hefyd yn yr ysgol gyda'i dad. Ymaelododd yn ieuanc yn y Neuadd Lwyd. Ar ol derbyn addysg i raddau lled bell gan ei dad, aeth i athrofa y Dref Newydd. Daeth ym