Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae y gân yn y Dyddanwch Teuluaidd, a chyfieithad o honi yn y Cambro Briton gan "G. G.," wedi ei dyddio "Hay, Feb. 26, 1820." PARRY, JOHN, oedd. Ailf ab John Parry, Ysw, Llan Uwch Aeron. Efe a ddygwyd i fyny ym Rhydychain, a daeth yn rheithor Troed yr Aur, ac hefyd yn Archiagon Ceredigion. Priododd weddw D. Morgan, Ysw., Coed Llwyd, a merch Nicholas Lowes, Ysw., Pant yr Odyn. Bu farw yn 1727.

PARRY, STEPHEN, oedd fab D. Parry, Ysw., Neuadd Trefawr. Bu yn aelod seneddol dros Aberteifi. Yr oedd yn enwog am ei haelioni ac achleswr llenyddiaeth ei wlad. Efe a Waltar Lloyd, o Goodmor, fu â'r llaw flaenaf mewn dyfod ag argraffwasg i Emlyn. Mae Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol wedi ei gyflwyno iddo ef a Mr. Lloyd. Bu farw yn 1724, yn 49 oed.

PEREDYR AB EFROG oedd un o Farchogion Bord Gron y Brenin Arthur, a phreswyliai yng Nghastell Cefel, ym mhlwyf Llangoedmor. Mae mabinogi wedi ei ysgrifenu ar Beredyr. Gelwir ef yn y Trioedd fel un o dri marchog llys y Brenin Arthur yn ymchwilio am y Greal colledig. Gelwir ef yn y Gododin yn "Peredyr Arfau Dur," ac iddo gwympo ym mrwydr ofnadwy Cattraeth.

PETER, DAVID, gweinidog enwog gyda'r Annibynwyr, a aned yn Aberystwyth yn 1755. Cafodd ei addysgu yng Nghastell Hywel â Choleg Henadurol Caerfyrddin, a daeth wedi hyny yn athraw duwinyddol y sefydliad. Yr oedd hefyd yn weinidog Capel Heol Awst, Caerfyrddin, yr hun a fu unwaith yn un o gapeli lluosocaf a mwyaf anrhydeddus yr enwad yn y Dywysogaeth. Llanwodd y ddwy swydd o athraw a gweinidog yn y dref gyda'r parch mwyaf dros ddeugain mlynedd. Cynnyddodd aelodau Heol Awst o dan ei weinidogaeth, o ddeugain i chwech cant o gymmunwyr. Ystyrid ef yn ysgolor da, yn wr o ddeall a phwyll mawr, ac o'r cymmeriad mwyaf boneddigaidd yn y lle. Yr oedd hefyd yn ysgrifenydd Cymreig gwych, yn gystal ag yn hanesydd enwog. Cyhoeddodd yn y flwyddyn 1803, gyfieithad o Protestant