Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ieuainc ym Mangor trwy ei ymdrechion: efe a ddangosodd lawer o ddoethineb a phenderfyniad gyda'r symmudiad. Bu casglu y swm o 11,000p. yn llafur mawr. Nid oes modd traethu y llafur a gymmerodd gyda'r fath waith. Bydd yr adeilad a'r Ysgolion Prydeinig yn gofgolofn iddo. Yr oedd hefyd yn ddarlithiwr enwog. Bu farw Hyd. 9, 1867, yn 56 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llaneugrad. Dangoswyd Parch mawr iddo ar ddydd ei gladdedigaeth. Ni welwyd, meddir, oddi ar angladd John Elias, y fath nifer o bobl ar y cyfryw amgylchiad.

PHYLIB AB IFOR, Arglwydd Isgoed, oedd wyr Gweithfoed Fawr. Priododd a Chatherin, ferch y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd. Bu iddynt ferch o'r enw Elen Goch, yr hon a briododd â Thomas ab. Lywelyn o Ddinefwr. Priododd Margaret ferch Thomas ab Llywelyn a Thudur ab Grouw, o Benmynydd. Mon; ac Elen a Gruffydd Fychan, Glyn Dyfrdwy.

PHYLIB BRYDYDD oedd fardd enwog o Geredigion yn ei flodau y trydydd canrif ar ddeg. Y mae chwech o'i gyfansoddiadau yn y Myfyrian Archaiology.. Canodd i Rys Ieuan ac ereill. Mae ganddo farwnad i Rys, yr hwn fu farw yn 1222.

PHYLIB GOCH, Abad Ystrad Fflur. Bu farw yn y flwyddyn 1280 Cymmerodd ran helaeth yn helyntion y wlad yn yr amser peryglus hwnw.

POWELL, RHYS, a fwriwyd allan o Lanbedr gan Ddeddf Unffurfiaeth; ond efe a gydsyniodd wedi hyny. Dyma yr enw blaenaf yn rhes gweinidogion ymneillduol y sir.

POWELL THOMAS, marchog, o'r Llechwedd Dyrys, ger Nanteos, oedd fab Jobn Powell o'r un lle, a Jane ei wraig, yr hon oedd ferch Thomas Pryse, Glan Ffraid. Priododd Elisabeth ferch ac etifeddes D. Lloyd, o Aberbrwynen. Cafodd ar yr 28fed o Ebrill, 1687, ei ddyrchafu yn un o farwniaid y trysorlys. Mae ei enw ym mhlith y tanysgrifwyr at gynnorthwyo Edward Llwyd pan yn teithio i ymchwilio defnyddiau at ei Archeologia Britanica. Ei gynnrychiolydd yw y Milwriad Powell o Nanteos.

POWELL, WILLIAM, LL.D., o Nanteos, a aned yn y Flwyddyn 1705. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Rhydychain.