Yr oedd yn enwog am ei ddysgeidiaeth a'i ddylanwad yn y sir. Bu farw Rhagfyr 21, 1780.
PROPERT, JOHN, meddyg o Lundain, oedd enedigol o Flaenpistyll, Llangoedmor. Bu yn ysgol Ramadegol Aberteifi. Pan yn ieuanc bu yn fanerwr yn y cartreflu. Ymrwymodd wedi hyny yn freintwas gyda Dr. Noot, Aberteifi. Ym mhen rhyw gymmaint o amser, aeth i Lundain, a dywedir nad oedd ganddo ond swllt yn weddill gwedi talu am ei gludiad yng Nghaerfyrddin. Bu dan hyfforddiadau y Dr. Abernethy; ac yn fuan ennillodd freinteb. Ar ol ymsefydlu yn ei alwedigaeth daeth yn y blaen yn dra llwyddiannus. Rhoddodd ei holl egni ar waith tuag at sefydlu y Coleg Dyngarol Meddygol, a bu yn llwyddiannus; a chafodd fyw i'w weled wedi cyrhaedd safon genedlaethol. Deil hyn yn golofn i'w enw am oesoedd nas gellir cyfrif yn bresennol. Er pan ddarganfu y meddwl o sefydlu y coleg, ni chafodd fyth fyned o'i feddwl hyd ddiwedd ei oes. Gwnaeth lawer iawn gyda'r Gymdeithas Amddiffynol Feddygol. Yr oedd yn dra chyfoethog. Yr oedd hefyd yn elusengar a haelionus at bob achos a feddyliai yn deilwng. Dywedir nad oedd un Cymro yn cael ei droi ymaith yn waglaw o'i dy, yn neillduol brodorion o Geredigion. Cyfranai yn haelionus at adeiladu Eglwysi ac ysgoldai yng Nghymru. Bu a'r llaw flaenaf tuag at gael rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi, yr hon sydd wedi ei gorphen er ys blynyddau i Landyssul. Credai ei fod yn gwneyd gwasanaeth mawr i'w wlad yn hyn. Ond er ei fod yn dra haelionus i Gymru ac achosion teilwng yn y Dywysogaeth, yr oedd yn elyn anghymmodlawn i'r iaith Gymraeg. Edrychai arni fel tad pob drwg ac aflwydd yn y wlad: ni fynai chwaith taw ap Robert oedd dechreuad Propert. Ond os collfarnwn hyn ynddo, nid oes modd nad hyny oedd ei farn gydwybodol ef. Beth bynag, bydd son am sefydlydd y Medical College yn Epsom am oesoedd lawer. Bu farw Medi 8, 1867, yn 75 oed.
PRYDYDD BYCHAN, bardd enwog yn y trydydd canrif ar ddeg. Y mae y tebygolrwydd mwyaf taw. Ceredigwr oedd. Mae un ar hugain o'i gyfansoddiadau yn yr Archaiology of Wales, a'r rhai hyny, gan mwyaf,