PRYTHERCH, JOHN, pregethwr o gryn enwogrwydd, a aned yng Nghwm Tywi, plwyf Dewi. Cafodd ysgol am flynyddau yn Ystrad Meirig. Ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd, a dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1763. Symmudodd i Flaensawdde, Llanddeusant. Bu cadw ysgol am flynyddau yn Eglwys y plwyf hwnw. Trwy briodi Catherin Winstone o Bentre Felin, Brycheiniog, aeth i breswylio i ardal Trecastell. Bu farw yn 1802, yn 60 oed.
PUGH, JOHN, Pont y Gido, Llanarth, offeiriad Llanllwchaiarn; a aned yn y lle hwnw. Yr oedd naill ai wyr neu orwyr i: Hugh David, offeiriad yn Llanarth o gylch 1595. Y mae yn debyg taw Hugh ab Hugh. oedd ei dad. Mae amal grybwyll am y tylwyth yn yr ach-lyfrau. "Edward: Morgan of Glasgrug, matried daughter and heirress of Dd. ap.Hugh of Llanarth;" ac eto, Margaret, daughter of Rhydderch' sp · Rhyddereb. of Pantstreimon, married Hugh. Dd. Pugh of: Llanarth." · Mae hanes yr yagolor dwfn hwn yn brin iawn. Yr oedd yn hyddysg yn ieithoedd. Groeg a Lladin;' ac hefyd yn yr ieithoedd dwyreiniol, yr Hebraeg a'r Galdaeg. Mas ar gael heddyw weddillion o'i lyfrgell, yn cynnwys Geiriadur Hebraeg a Chaldaeg Buxtorf, Gramadeg Expenius o'r Arabaeg; Corff Duwinyddiaeth Leigh; Cyfeithad o Eshoniad Italaidd Diodati ar y Beibl; Gwyddoniadur mawr Lladin; Geiriadur Cymraeg a Lladin Dr. Davies o Fallwyd, yng nghyd ag amryw lyfrau a llaw-ysgrifau; ac y mae y cyfan o ol ei law yn dangos ei fod yn ysgolor uchel iawn. Bu yn cadw ysgol wech ym Mhont y. Gido, a bu yr enwog Edward Richard yn derbyn-dysg ganddo. Ond er yn ysgolor