dwfn, hen Gymro diaddurn oedd. Dywedir iddo unwaith mewn ciniaw gyhoeddus geisio bendith yn Gymraeg, yr hyn a berodd i ysgogynod wenu. Ceisiwyd ganddo ddiolch, ac er mwyn rhagflaenu gwawd pellach, efe a wnaeth hyny yn yr Hebraeg. Y mae y ddwy linell & ganlyu yn parhau i gael eu hadrodd gan blant ysgol yr ardaloedd:
"Jupiter in recto facit Jonis in genitivo,
So says Pugh of Pont y Gido.""(1)
Bu farw mewn henaint teg yn niwedd Mai, 1763, ac a gladdwyd Mehefin 3ydd, o dan gôr y teulu yn Llanarth. Yr oedd y diweddar Mrs. Lucretia Jones, Cnwc yr Uochedydd yn ferch i'w fab.
- (1) Pont y Gidau, sef Pont y Geifr.
PUGH, PHILIP, gweinidog ymneillduol enwog yn y Cilgwyn, Llwynpiod, Aber Meirig, &c., a anwyd yn Hendref Llanpenal, yn y flwyddyn 1679. Y mae yn debyg iddo dderbyn addysg dan Mr. Jones, Brynllywarch; ac wedi hyny yn athrofa y Fenni. Yr oedd Mr. Pugh yn wr boneddig o gyfoeth ac ymddygiad. Meddiannai amryw leoedd ei hun, sef Hendref, lle y preswyliai, Ffos yr Odyn, Glandwr, &c.; ac efe a briododd wraig gyfoethog, sef merch y Coedmawr Fawr, ger Llanbedr, gyda'r hon y cafodd amryw leoedd gwychion yn yr ardal hono. Y mae hanes fod un Philip Pugh wedi cael ei dderbyn yn aelod gyda'r Puritaniaid yn Llanbadarn Odwyn, yn y flwyddyn 1655, yr hwn, fel y bernir, oedd tad P. Pugh y gweinidog. Cafodd P. Pugh ei dderbyn yn aelod yn y Cilgwyn, yn y fwyddyn 1704, lle gweinidogaethai D. Jones a D. Edwards. Cafodd ei urddo yn 1709. Bu yn cydlafurio â Mr. Edwards, hyd 1728. O hyny allan, bu yn brif weinidog yn y Cilgwyn a'r cylchoedd. Y mae pob tystiolaeth argraffedig, lawysgrifol, a thraddodiadol, yn cytuno mai pregethwr mawr a diwyd, gwr boneddig haelionus iawn, a Christion diffuant ydoedd Mr. Pugh. Yr oedd yn hollol ymroddedig i'r weinidogaeth. Ymdrechai rodio canol y ffordd, rhag myned ar un tu i'diroedd pell Arminiaeth ac