Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ariaeth; ac o'r tu arall, rhag penrhyddid Antinomiaeth. Y mae yn ymddangos fod y meddwl dynol yn pendroni yn fawr yn ei amser ef. Rhai yn myned i eithafon An- tinomiaeth; ac ereill o'r tu arall, yn ymylu ar Ariaeth. Ysgrifenodd Mr. Pugh ar lyfr y Cilgwyn, yr hyn a elwai y Deg Cyfeiliornad Antinomaidd. Y mae ganddo ar ol hyny Cyfarwyddyd i rodio gyda Duw, mewn deg o benau; ac y mae yn ddrwg genym bas gallwn eu rhoddi i mewn o herwydd diffyg lle, o blegid y maent yn dra rhagorol, yn dangos meddwl duwiolfrydig iawn; a chyfarwyddiadau i bawb at fyw yn dduwiol. Fel Ymneillduwr, yr oedd Mr. Pugh yn gymmedrol iawn. Ysgrifenodd ar lyfr Cilgwyn fel y canlyn : Pe buasai pawb o'r Presbyteriaid, yn gwbl o'r un meddwl a Stephen Marshall; pob un o'r Annibynwyr yn gwbl o'r un meddwl a Jeremiah Burroughs; a phob un o'r Episcopaliaid o'r un feddwl a'r Archosgob Usher, buan y celid gweled archollion yr Eglwys yn cael eu hiachäu." Yr oedd yn haelionus rhyfeddol. Byddai yn cynnorthwyo ugeiniau o'r cymmydogion mewn gwahanol amgylchiadau; yn cyfranu yn helaeth i'r tlodion; ac wrth bob tebyg, yn derbyn ond ychydig am ei lafur yn y weinidogaeth. Gwnelai ymdrech mawr i addysgu pawb yn hanes ac egwyddorion y Beibl. Ymwelai gweinidog yn yr oes hon â ben wr yn Llundain, genedigol o Geredigion, â chafodd ei fod yn hyddysg iawn yn y Beibl a phethau crefydd. Gofynodd iddo sut yr oedd mor wybodus yn ei Feibl ac yntau wedi gadael Cymru er ys ugeiniau o flynyddau. "O, ebai yntau, " Mr. Pugh anwyl, a fu yn fy nysgu gyda diwydrwydd mawr." Tebyg mai yr hen wr hwnw oedd yr olaf o ddysgyblion Mr. Pugh. Talodd wyth punt y flwyddyn am flynyddau lawer i ysgolfeistr medrus o'r enw Morgan Williams (1) am gadw ysgol yn Llangwyryfon, Llanrhystud, a Llancwnlle. Yr oedd wyth punt pryd hyny yn fwy nag ugain yn awr. Yr oedd maes llafur Philip Pugh, Jenkin Jones, ac ereill yn eang; ac yr oedd eu cymmunwyr yn y flwyddyn 1715, yn 1000. Ar ol