Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

marwolaeth Jenkin Jones, ac i Mr. Pugh heneiddio, a dyfod o Dan. Rowland, y taranwr mawr, i dynu y wlad ar ei ol, cawn fod Mr. Pugh wedi gorfod rhoddi llythyrau i bymtheg a deugain i ymadael am Langeitho, a thair o wragedd am y Coed Gleision. Beth bynag, y mae hanes fod 35 o rydd-dyddynwyr yn perthyn i'r Cilgwyn, yn ol pob tebygolrwydd ar ol yr ymadawiad hwnw; ac felly, y mae lle cryf i gredu fod yr achos wedi bod yn gryf iawn yno. Y mae yn debyg fod yr elfen bell-Arminiaidd yn gweithio ei ffordd i faes llafur P. Pugh, tra yr oedd efe byw. ac y mae yn debyg ei fod yntau yn teimlo yn flin am hyny: Bu y gweinidog ffyddlawn hwn farw Gorphenaf 12, 1760, yn 81 mlwydd oed. Bedyddiodd 680 o blant, o Dachwedd 1709, hyd Mawrth 1760. Y cyntaf a fedyddiodd oedd Margaret, merch y Parch. Jenkin Jones; a'r olaf oedd Mari, merch John Davies, yr hon wedi hyny fu yn wraig i'r Parch. Mr. Williams, Llanfair Clydogau, a mam gu y presennol Barch, John Davis, B.D., Llanhywel Dyfed. Y mae llawer o'i waith i'w weled yn Church Book y Cilgwyn. Cafodd y. llyfr hwnw ei ddechreu gan rywun arall. Cynnwysa y llyfr 213 o dudalenar, o blygiad cyffredin Testament. Dechreua fel hyn:-"A list of such as were members of a Church of Christ gathered in Cardiganshire from the year_1653, to the year 1659. Lampeter, March 4th, 1654. Rees Powell, Pastor." Yna y canlyn y lleoedd : Bettws, Llanarth, Llanbadarn Fawr, Llanbadarn Odwyn, Llangoedmor, &c. Y mae bwlch yn Yr hanes ar ol hyny am flynyddau. Cynnwys Seisoneg a Lladin yn benaf, ac ambell dipyn o Gymraeg. Cynnwys hanes urddiad a marwolaeth yr holl weinidogion ymneillduol yng Nghymru, a rhai yn Lloegr. Yr oedd gan Mr. Pugh lyfr arall, yr hwn a gadwai gartref, y mae yn debyg. Cafodd Mr. D. Jones, Dolau Bach, Llangeithio, y llyfr hwn rhywle, a rhoddodd ei fenthyg i Dr. Phillips, Neuadd Lwyd; a rhoddodd y Dr. ei fenthyg i'r Parch. D. Morgan, Llanfyllin; ac ni ddaeth byth yn ol i Geredigion. Claddwyd Mr. Pugh, medd rhai, yn Llanddewi Brefi; ond dywed ereill mai yng Nghilcenin y claddwyd ef. Y mae D. Pugh, Ysw., Manorafon, yn orwyr iddo.

(1) Morgan Williams, Rhydlydan, y gelwid yr ysgolfeistr enwog hwn. Nis gwyddom pa un ai Rhydlydan ar gyffin Llanarth : Llandyssilio Gogo, neu ynte Rhydlydan Caio oedd y lle hwnw.