Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

REES JOSEPH, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Rhydfendigaid, oedd enedigol o blwyf Llanfair Orllwyn. Ganed ef yn y flwyddyn 1796. Ymunodd a'r Trefnyddion yng Nghapel y Drindod, tua'r flwyddyn 1823. Saer oedd wrth ei alwedigaeth. Dechreuodd bregethu ym mhen rhai blynyddau. Symmudodd i Bont Rhydfendigaid. Urddwyd ef yng nghymmanfa Llangeitho yn y flwyddyn 1841. Yr oedd yn ddyn o feddwl cryf iawn, ac yn dwyn llawer o ol darllen. Bu farw ym Medi 1847.

REES, RHYS ARTHUR (Rhys Dyfed), un o feirdd ieuainc mwyaf talentog a choethedig yr oes bresennol, a aned yn Felin Brithdir, plwyf Penbryn, yn y flwyddyn 1837. Yr oedd ei rieni yn bobl barchus; a chlywsom rai hen bobl gall yn dyweyd na fu iddynt erioed ffyddlonach cyfaill na Rhys Rees, Felin Brithdir, sef tad y bardd. Bu farw y tad y bardd pan oedd ond plentyn. Deuai Rhys Dyfed ym mlaen yn rhagorol yn yr ysgol. Yr oedd yn medda galluoedd cryfion iawn at rhifyddiaeth a mesuroniaeth. Ymrwymodd yn egwyddorwas ym masnachdy Mr. J. M. Jones, Rhydlewis. Aeth ym mhen rhyw flynyddau i Lynlleifiad, ac oddi yno i Lundain. Ym mhob un o'r lleoedd hyn, efe a ymroddodd at ddiwyllio ei feddwl, &c i fwynhau cyfleusderau llyfrgelloedd y lleoedd mawrion hyny. Darllenai weithiau y prif awdwyr Seisonig, yn athronwyr a beirdd. Yr oedd yn meddu cof godidog. Daeth yn feistr perffaith ar y Seisonig, ac ni allasai nemawr neb llai na chredu nad Sais genedigol oedd, pan glywent ef yn siarad yr iaith hono. Cyfansoddai farddoniaeth a rhyddiaeth yn iaith y Seison gyda llawer iawn o dlysni. Gwaelodd ei iechyd yn y flwyddyn 1860, ac ysgrifenai atom ei fod yn credu ei fod ar fyned i wlad lle nad oedd neb o'r preswylwyr yn dychwelyd mwy. Beth bynag, efe a gafodd wella i ryw raddau, am tua chwe blynedd. Yn y blynyddau hyn arosai gartref, ac yn maelfa Rhydlewis. Darllenai yn ddibaid, a chyfansoddai lawer iawn o farddoniaeth ragorol. Ennillodd y wobr am Farwnad Carn Ingli yn Eisteddfod Llandudno, am yr hon y derbyniodd ddeg punt a thlws. Anfonodd gan odidog ar "Llywelyn ein Llyw Olaf" i Eisteddfod Ty Gwyn ar Daf, yr hon oedd yn