Parch. Thomas Oliver, yn y plwyf cyffiniol, Lledrod, a chyflawnodd y sefyllfa hòno gyda llawer o anrhydedd iddo ei hun a boddlonrwydd i'r ymddiriedwyr. Ychwanegodd ychydig yn awr at ei dderbyniadau arianol; a thrwy gynnildeb ei fam, yr hon oedd yn cadw ei dy, efe a ystoriai ychydig arian. Trwy ddal heb briodi, efe a wnaeth benderfyniad i sefydlu Ysgol Ramadegol yn Ystrad Meirig, i ddysgu Lladin & Groeg, ac yn egwyddorion yr Eglwys Sefydledig; ac yn y flwyddyn 1757, efe a sefydlodd dyddyn at hyny, yr hwn oedd wedi brynu. Sefydlodd lyfrgell at wasanaeth yr ysgol yn 1759. Pan gyfarfu ei frawd Abraham a'i farwolaeth ddisyfyd, cafodd effaith fawr ar ei deimladau; a phan fu farw ei anwyl fam, efe a deimlodd yn fawr iawn. Cymmerodd hyny le tua'r flwyddyn 1764. Cyfansoddodd gan dlos a thyner ar yr amgylchiad. Ystyrir hon, o ran tynerwch meddyliau, syniadau moesol a chrefyddol, a'i harddull, uwch law cyfartalwch. Mae ar ddull yr hen gerddi bugeiliol, yn cynnwys ymddyddan rhwng dau fugail - un yn galaru am ei fam, a'r llall yn gweini cysur. Argraffwyd y gân yn 1766. Ym mhen ychydig flynyddau ar ol hyny, efe a gynnyrchodd farddoniaeth arall mwy o faint, yn yr un dull bugeiliol. Yr oedd yn hynod ddiystyr o'i gynnyrchion barddonol. Mae tystiolaethau lawer, yn neillduol yng nghywydd marwnad y bardd, gan y Parch. Dafydd Elis, ei fod wedi cynnyrchu llawer rhagor o farddoniaeth, yn englynion a chywyddau; ond cawsant eu taflu, yn ddiystyr, ganddo ei hun, neu gan y sawl a gafodd ofal ei bapyrau. Mae ei farddoniaeth yn dangos Awen goeth iawn, dydgeidiaeth ddofn, a syniadau calon dyner â Christionogol. Yr oedd hefyd yn dra hyddysg yn hanes a hynafiaethau ei wlad, ac arferai obebu & Lewis Morris, Dr. Philips, Llangoedwor, a dysgedigion ereill. Mae amryw o'r llythyrau hyn wedi eu cyhoeddi yn y Cambrian Register. Yn 1771, efe a sefydlodd ffermydd ereill at wasanaeth Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig; ac yn 1774, gwnaeth weithred newydd, gan ychwanegu rheolau newyddion at ei dygiad ym mlaen. Bu ei amcan dyngarol ganddo am ugain mlynedd mewn bwriad; ac ar ei wely angeu, yr oedd yn ymddangos yn y modd mwyaf
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/218
Gwedd