brwdfrydig am i hyny gael ei ddwyn allan. Rhoddodd Felin Swydd Ffynnon, ym mhlwyf Lledrod, i James Lloyd, Ysw., Mabwys, a'i etifeddion am byth, ar y teler o dalu punt y flwyddyn i'w olynwyr yn Ystrad Meirig, ac i drigolion Ystrad Meirig am byth gael malu am hanner doll. Rhoddodd y gweddill o'i ystâd, sef Brynperfedd, ym mhlwyf Ystrad Meirig; Ty Mawr, Ty'n y Gwndwn, a Bryngarw, ym mhlwyf Lledrod; a thyddyn Prygnant, ym mhlwyf Llanfihangel y Creuddyn, oll yng Ngheredigion, at wasanaeth yr ysgol yn Ystrad Meirig. Dyma y geiriau olaf yn yr ewyllys :—"To my successors in the school. This school is not to be a sinecure; you must attend, and get your bread by labour and industry. This is my will, and I hope it will be observed; discharge therefore your trust. faithfully, as knowing that you are accountable for your behaviour, not only to the trustees, but also to the Almighty. Let the school and library be kept in good repair, and improved to the utmost of your power. Edward Richard, Ystrad Meirig, February 28, 1777." Penododd Esgob Ty Ddewi, Iarll Lisbwrn, Dr. Wm. Powell, Nant Eos; James Lloyd, Yswain, Mabwys; a Thomas Hughes, Yswain, Hendre Felen, a'u hetifeddion, i fod yn ymddiriedwyr. Bu y cymmwynaswr elusengar hwn i'w wlad farw ar y pedwerydd o Fawrth, 1777. Claddwyd ef yn Eglwys Ystrad Meirig, ar ochr orllewinol y pulpud, yn agos i'r mur gogleddol. Gosodwyd cofgareg am dano ar fur y llyfrgell, ac arni y cerfiad a ganlyn :-"Hanc Bibliothecam fundavit, librisque completavit EDVARDUS RICHARD; Vir eximii ingenii, eruditionis ac diligentiae; Qui arduo ludimagistri munere per 45 annos summa cum laude perfunctus est. Hanc insuper scholam annuis donavit reditibus in pauperum puerorum institutionem: Quae, inter illustrissimos illos viros, qui humani generis fuerunt EYEPΓETAI, Nomen ejus merito collocabunt. Quarto nonas Martii, anno aetatis 63, Christi 1777, obiit." Er fod 88 o flynyddau er pan orphenodd y gwr enwog ei yrfa, y mae ei weithredoedd gogoneddus a'i enw da yn parhau yn fyw. Nid oes modd traethu pa faint o ddaioni a wnaeth yr ysgol yn barod, a llawer anhawddach dirnad
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/219
Gwedd