Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pa faint a wna yn y dyfodiant. Wele res o wyr enwog a dderbyniasant addysg yn Ystrad Meirig :-y Parchedigion E. Evans (Prydydd Hir); Thomas Jones, Creaton; Mr. D. Richards (Dafydd Ionawr); Parchn. John Williams, Ystrad Meirig; John Williams, A.C., Caereiddin; John Lloyd, Ysw., Mabwys; Milwriad J. P. Lloyd eto; Cadfridog Davies, Tan y Bwlch; W. Morris, Ysw., Blaennant; Parchn. Hugh Lloyd, Cilpill; Morgan Hughes, Corwen; Jobn Hughes, Cemmaes; John Owen, Thrussington; W. Williams, Pen y Graig; John Hughes, Llanbadarn Fawr; William Jones, Bedwellty; J. Jones, Llanfihangel Geneu'r Glyn; R. Richards, Darowain'; Lewis Evans, gynt ficer Llanfihangel Geneu'r Glyn; R. Evans, gynt ficer Llanbadarn Fawr; M. Evans, Llangeler; Lewis Morris, Ysw., Caerfyrddin; Dr. John Birt Davies, Birmingham; Syr D. Davies, meddyg i'r Frenines Waddolog; Parchedigion D. Richards (Dewi Silin); J. Jennings, cynon trigiannol Westminster; Morgan Morgans, Conwy; D. Evans, Llanafan Fawr; Joseph Hughes (Car Ingli); D. James (Dewi o Ddyfed); Evan Morgan, Morganwg; John Morgan, Llangwyryfon; John Hughes, Caron; Thomas Thomas, Caernarfon; J. M. Davies, Ysw., Pant y Fedwen; John Lloyd Phillips, Ysw., Dale Castle ; Parchn. D. Edwards, gynt o'r Yspytty; J. Edwards, Dref Newydd; Jenkin Hughes, diweddar gurad St. John's; Morgan Davies, Trefriw Fach; J. Lloyd Williams, Llandulas; Peter Felix, Llanilar; John Lewis, Llanrhystud; John Hughes, Ty'nllwyn; James Hughes eto; John Daniel, Cwrt Mawr; D. Daniel eto; John Jones (Caron gynt); Dr. Rogers, Aber Meirig (meddyg enwog); Parchn. D. E. Jones, Llanafan; Evan Pugh, Llanidloes; Morgan Lloyd, Yspytty Ifan, awdwr gwych; M. Evans, Llanfair ym Muallt (Cynllo Maelienydd); Richard Jones, Aberystwyth; D. L. Jones, Coleg Iesu, Rhydychain; W. Williams, Deri Garon; a John Williams, Ysw., Brighton.(1) Dywed traddodiad fod E. Prichards yn ddyn o gorffolaeth mawr iawn, yn gryf rhyfeddol, yn nesaf mewn bwrw bar at gawr yr oes hòno,