cymdeithas yr oedd amryw o wŷr eglwysig yn cydfyned: a hwy a gytunasant i gyfarfod unwaith mewn blwyddyn mewn rhyw le penodedig. Pa le bynag y byddai y dyn sanctaidd hwn yn myned, angel yr Arglwydd, ar ddelw colomen, a gyd-deithiai ag ef, yr hwn a droiodd ei enw o Caranog i Cemach, yr hwn sydd enwad Gwyddelig. Bob amser ar ei fordaith, byddai yn gwneuthur gwyrthiau er cadarnhâd o'r ffydd a bregethid ganddo, a byddai yn iachäu miloedd. Y mae teithrolau y dyn sanctaidd hwn, Cemach neu Caranog, i'w darllen yng ngweithiau haneswyr Gwyddelig, a'r modd y rhoddwyd y gras gyntaf i'r Apostolion, a roddwyd yn helaeth iddo yntau. Yr oedd yn filwr ac arwr tra rhyfeddol i Grist, yn abad ysbrydol a defosiynol, yn athraw amyneddgar, ddim yn nacäu pregethu gwirionedd achubol i bawb. Yn ystod amryw flynyddau a dreuliwyd ganddo yn yr ynys hòno, dygodd nifer anghredadwy i olchi ymaith eu pechodau drwy benyd, a llafur dibaid, ddydd a nos, byddai yn offrymu gweddïau yn aneirif at Dduw. Ar ol iddo ddychwelyd llawer o bobl at yr Arglwydd, gan wneuthur llawer o wyrthiau drwyddo ef, efe yn y dìwedd a ddychwelodd i'w wlad enedigol ym Mhrydain, lle yr enciliodd i'w gell gyntefig, yng nghymdeithas amryw o'i ddysgyblion. Wedi adeiladu Eglwys yno, penderfynodd aros yn y lle; ond eilwaith, wedi ei gynghori gan lais o'r nef, efe a ddychwelodd i'r Iwerddon, yno mewn oedran a llawn gweithredoedd sanctaidd, efe a orphwysodd mewn heddwch ar y ddwyfed ar bymtheg o Fehefin; efe a gladdwyd yn ei ddinas ei hun, yr hon oddi wrtho a elwir Cernach" (Rees's Welsh Saints, p. 209.)
Nid ydym i gredu rhyw lawer o'r hanes hwn am y gwr sanctaidd, Caranog; ond y mae yn ddiammheu ei fod yn weinidog duwiol a gweithgar rhyfeddol. Nid ydyw yn debyg fod ysgrifenwyr eithafol y canol oesoedd yn cymmeryd cymmeriadau dinod i'w hedmygu. Y mae careg fawr ger llaw Eglwys Llangranog o'r enw "Eisteddfa Garanog," lle dy wedir fod y sant yn eistedd ac yn cyflawnu gwyrthiau lawer. Mewn lle o'r enw "Ffrydiau Cranog," y mae pyllau bychain o ddwfr yn y graig, wedi cael eu tori