Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

brwydr bwysig a gymmerodd le rhwng Rhys ab GrufFydd â Harri II. ym Mhencadair, pan y cyfryngodd gwŷr da Brycheiniog rhwng y brenin a Rhys, rhoddodd Rhys ei ddau nai yn wystlon o'i heddwch, sef Ëiniawn ab Anarawd, a Chadwgan ab Meredydd. Yn fuan, drwy ddichell y Seison, cafodd Cadwgan ei ladd yn ei gwsg gan Walter ab Richard, ei was, a chafodd Einiawn yr un dynged gan Walter ab Llywarch.

CADWGAN AB OWAIN ydoedd fab Owain, Tywysog Aberteifi, ac ŵyr i Hywel Dda. Lladdwyd ef gan y Seison yn y flwyddyn 949. (Myf. Arch. i. 44.)


CARANOG, yn Lladin Carantocus ydoedd fab Corun ab Ceredig, a brawd i Tyssul. Efe a sylfaenodd Eglwys Llangranog. Y mae ei wyl ar 16fed o Fai. Y mae John Teignmouth yn ei osod yn fab, ac nid ŵyr i Geredig, ac y mae y dyfyniad canlynol o waith yr awdwr, yr hwn a gyfieithwyd gan Cressy, yn ddrych rhagorol o'r hyn yr ydoedd bywydau y seintiau yn cael eu hysgrifenu yn y canol oesoedd. Ar ol traethu fod Caranog "drwy ddisgyniad a gwlad yn Frython, mab Ceredig, Tywysog Ceredigion (Cereticae Regionsis): y mae y cyfieithydd yn myned rhagddo: "Rhyw dywysog o'r enw Ceredig, a feddai amryw blant; ym mhlith y rhai, yr oedd un o'r enw Carantoc, plentyn o anianawd dda, yr hwn a ddechreuodd yn foreu i wneyd y pethau hyny ag ydynt dderbyniol gan Dduw. Yn y dyddiau hyny, yr oedd yr Ysgotiaid yn blino Prydain, fel yr oedd ei dad yn analluog i ddal pwys gofidiau y llywodraeth, a fynai roddi i fyny y dalaeth i Garanog. Ond efe, yr hwn a garai y Brenin nefol yn llawer mwy na theymas ddaiarol, a ffoiodd ymaith; ac wedi prynu ysgrepan a ffon gan fenyw dlawd, drwy gyfarwyddyd Duw, a ddygwyd i fan dymunol, lle efe, a orphwysodd, ac a adeiladodd addolfa, ac yno efe a dreuliodd ei amser gan foliannu Duw. O'i ieuenctyd, efe a fynwesodd burdeb a diniweidrwydd. O'r diwedd, efe a symmudodd drosodd i'r Iwerddon, gan gael ei wahodd at St. Patrig. Gwedi ennyd o ymgyfeillach, drwy gynghor, hwy a ymwahanasant, gan benderfynu i un o honynt bregethu yr Efengyl ar y llaw dde a'r llall ar y llaw chwith. Yn eu