Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyfaill mynwesol i Mr. Jones, Creaton, fel y dengys y nodyn hwn.(1)

(1) 1 "The Rev. T. Richards and the Rev. T. Jones were friends in early life, and that friendship has continued unabated till both are far advanced in years, and travelling together from eighty towards ninety years of age. What gratitude do we both owe to that God who has loaded us with His benefits all the days of our lives! May we live and die to his glory.-T. Jones, Creaton." Y mae y nodyn wedi ei ysgrifenu gan Mr. Jones ar ddalen llyfr ym meddiant Miss Richards, merch Mr. Richards. Ysgrifenwyd hyn tua'r blynyddau 1834–35.

ROBERTS, DAVID, un o berigloriaid corawl Llanddewi Brefi, yr hwn a gydsyniodd a'r Oruchafiaeth, Awst 4, 1534, ac eilwaith yn 1553.

ROBERTS, ISSAC, oedd enedigol o ardal Penllwyn, ger Aberystwyth. Yr oedd yn frawd i'r Parchedigion John Roberts (Ieuan Gwyllt) ac R. Roberts. Yr oedd yn wr ieuanc o dalentau dysglaer; ac yr oedd ei lafur a'i gynnydd yn fawr. Ymaelododd yn ieuanc gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a bu yn pregethu am rai blynyddau. Bu yn yr ysgol gyda'i frawd yn Aberteifi, ac yr oedd wedi dechreu ei yrfa golegol yn y Bala. Gwedi maith gystudd, bu farw Medi 1864. Yr oedd yn ddyn ieuanc tra gobeithiol. Yr oedd yn fardd da iawn, a phe buasai oes o'i flaen, diammheu y buasai yn un o brif ddynion ei sir enedigol.

ROGERS, JOHN, M.D., a aned yn Llanllyr, Llanfihangel Ystrad, yn 1786. Yr oedd yn hanu o deuluoedd hynafol Llanio a Brynele, y rhai sydd yn disgyn yn gywir o Weithfoed Fawr, brenin Ceredigion. Bu yn ysgol enwog Ystrad Meirig, o dan y Parch. John Williams, yr hwn oedd yn briod a modryb iddo. Bu yn efrydu meddyginiaeth yn Guy's Hospital, a Chaereiddin, lle y derbyniodd ei raddeb. Daeth yn feddyg deallus a medrus iawn; ac yr oedd ei garedigrwydd a'i elusengarwch yn fawr dros ben. Bu yn ymarfer trwy ei oes, fel pe buasai ei fywoliaeth yn dibynu ar hyny; ac ymddengys iddo wneyd mwy yn rhad fel meddyg na neb yng Nghymru. Yr oedd yn foneddwr cyfoethog; ond efe a godai yn foreu iawn, ac ymaith ag ef at dlodion ag y gwyddai oedd yn gofyn ymgeledd meddygol, megys yn y dyfrglwyf a doluriau poenus ereill. Cadwai