Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei amser i'r fynyd. Yr oedd o wasanaeth andhraethol i'r wlad. Bu farw yn ddamweiniol, Gorphenaf 5, 1846, pan yn dychwelyd oddi wrth ddyn claf. Ar y pryd hwnw y bu y llif mwyaf yn Nyffryn Aeron er ys oesoedd, a boddodd Dr. Rogers a'i was ym mhentref Talsarn.

ROWLAND, DANIEL, Llangeitho, a aned ym Mhant y Beudy, plwyf Nantcwnlle, yn 1713. Yr oedd yn fab i'r Parch. Daniel Rowland, periglor Nantcwnlle a Llangeitho. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Henffordd; a dywedir ei fod yn meddu ar alluoedd rhyfeddol i ddysgu, fel y dywedir iddo gael ei urddo cyn dyfod i'r oedran arferol i hyny. Yr oedd pryd hyny yn llawn bywiogrwydd, ac yn hynod wisgi - yn ben ar holl gampau a chwareuon yr oes - yn rhagori ar bawb o'i gyfoedion. Yr oedd yn y blynyddau cyntaf o'i weinidogaeth yn dra ysgafn a difater o'r swydd bwysig oedd wedi gymmeryd arno. Beth bynag, yn y flwyddyn 1738, efe a aeth i Llanddewi Brefi i wrando yr enwog Griffith Jones, Llanddowror. Yr oedd yr Eglwys fawr hòno yn llawn, ac felly methai Rowland a chael lle i eistedd, ac efe a safai yn hynod falch ei olwg o flaen y pregethwr, fel y gellid barnu ei fod am ei wawdio, yr hyn a ennillodd sylw yr hen offeiriad, a thorodd allan ar ei bregeth i weddïo dros y gwr ieuanc, ac am i Dduw ei wneyd yn offeryn i droi llawer o dywyllwch i oleuni. Effeithiodd y weddi yn ddwys ar ei feddwl. Dychwelai yn drist a gofidus: symmudai yn araf, a'i ben tua'r llawr: daeth yn ddyn newydd. Pregethai gydag effeithiau rhyfeddol. Clywodd Mr. Pugh, Llanpenal, am ei gyfnewidiad, ac ymfalchïai yn fawr yn hyny, gan annog ei bobl i fyned i'w wrandaw. Pregethai ar ryw bynciau yn dra gwahanol i Mr. Pugh; ond efe a'i cynghorai i adael iddo - y delai yn well mewn addfedrwydd oedran - ei fod yn credu ei fod yn offeryn neillduol yn llaw Duw. Cyfarfu Mr. Pugh ag ef wrth ddychwelyd o Abermeirig, ar ben rhiw Cilpill, pan yr oedd yn myned i Nantcwnlle, a gofynodd am gael rhoddi gair o gynghor iddo. Addawodd Rowland wrando. "Clywais," ebai ef, "eich bod yn dywedyd fod y saint yn cyrhaedd perffeithrwydd ar y ddaiar;" gan ychwanegu amryw bethau ereill, a rhesymu yn eu herbyn. "Peidiwch