Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneyd fel yna eto." "O'r gorau Mr. Pugh, ni wnaf byth." Ac felly y bu. Pregethai ar y cyntaf y gyfraith yn ei holl adwyth; ond er hyny, casglai miloedd o bobl i'w wrando, ac yr oedd effeithiau rhyfeddol yn canlyn - dynion wrth yr ugeiniau a'r cannoedd yn cael eu llanw gyda'r braw mwyaf effeithiol: syrthient i lawr fel meirwon. Dyhidlai dagrau dros wynebau cannoedd; a griddfanai y rhai mwyaf anystyriol, fel pe safent uwch dibyn anobaith. Parhaodd y dull ofnadwy hwn am tua phum mlynedd. Newidiodd ei ddull ar ol hyny, trwy ymsoddi yn fwy i nefoldeb yr Efengyl. Gwasanaethai pryd hyny Eglwysi Nantcwnlle, Llangeitho, a Llanddewi Brefi. Pregethai dair gwaith bob Sul, a dywedai ei fab nad oedd yn cael ond deg punt o gyflog.(1) Pregethai hefyd yn aml mewn Eglwysi ereill. Dywed Williams yn ei farwnad i "bump o siroedd penaf Cymru glywed y taranau mawr." Daeth gwraig o Ystrad Ffin i ymweled â'i pherthynasau yn Llangeitho, ac aeth i wrando Rowland, a gafaelodd yr athrawiaeth yn ei chalon. Daeth wedi hyny bob Sul i Langeitho, pellder o ugain milltir o dir mynyddig. Trwy ganiatâd offeiriad Ystrad Ffin, aeth Rowland i bregethu yno. Aeth boneddwr anystyriol a'i gŵn hela a'i gyfeillion i'r Eglwys. Aeth Rowland rhagddo heb wneyd un sylw o hono, er ei fod deall yr amcanai at ei ddigaloni. Ond yn lle dyrysu y pregethwr, dechreuodd y dyn rhyfygus deimlo a chrynu, a threiglai dagrau dros ei ruddiau. Methai sefyll i fyny. Eisteddai yn benisel, gan wylo yn hidl: rhuai y gydwybod: bygythiai euogrwydd, a chauai anobaith yn ddunos drom am dano. Ar y diwedd, gofynodd faddeuant Mr. Rowland yn y modd mwyaf gostyngedig. Gwahoddodd ef i'w dy. Cydunodd Mr. Rowland, a chiniawodd a chysgodd yno y noswaith hòno. Buont yn gyfeillion am eu hoes. Arferai y boneddwr o hyny allan ddyfod i Langeitho i wrando Mr. Rowland. Yr oedd arferiad gan bobl ieuainc yr ardal i bentyru ar ben bryn ger Llangeitho i ddwyn ym mlaen gampau annuwiol ar y Sul, er mwyn peidio clywed ei bregethau taranllyd. Ymdrechai eu perswadio ym mhob