Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwr uchel hwnw yn gwybod un gair o iaith y wlad, na chwaith yn deall angen y genedl. Taflodd o'r Eglwys un o ddynion goreu yr oes - dyn a ddylasai gael ei gydnabod â dyrchafiad am ei weithgarwch a'i dduwiolfrydedd, gan annog ereill i'w efelychu. Ys dywedodd y Parch. Mr. Ryle, efe a roddodd y fath ergyd ac archoll i'r Eglwys yng Nghymru, nad oes modd traethu y filfed ran o'r canlyniadau. Ond gan y ceir rhywrai i amddiffyn unrhyw beth yn y byd, tebyg y ceir rhai a amddiffynant yr Esgob Squire yn hyn. Aeth Mr. Rowland rhagddo yn rhyfeddol o lwyddiannus. Pregethai yn danllyd ac efengylaidd. Daeth Llangeitho yn gyrchfa o bob parth o'r Dywysogaeth. Yr oedd pobl o'r Bala yn myned yno - pellder o drigain milltir; ac ar droion, pobl o Ynys Mon. Dywedir fod tua 1500 o bobl yn arfer cynımeryd y Cymmun yno, a phum mil yn fynych yn y cyfarfodydd. Ni fu lle o'r fath yng Nghymru. Yr oedd ceffylau dyeithriaid yn llanw holl ochrau y ffyrdd, megys pe buasai yno ffair fawr; ond yr oedd yno bob trefn a gweddeidd-dra. Yr oedd yn hynod hunanymwadol. Nid oedd yn foddlawn i neb gymmeryd nodau o'i bregethau, pa chwaith dynu ei ddarlun. Byddai weithiau yn llwfr iawn, yn rhy ofnus i ddyfod allan o'i ystafell. Cymdeithasai lawer a'r nef. Yr oedd un tro i bregethu yn Llanbadarn Odwyn, ar fryn tua milltir uwch law Llangeitho. Gwelai y dorf ef yn dyfod allan o'r Persondy, ac yn croesi yr Aeron; ond er hir ddysgwyl, nid oedd argoel am dano i ddyfod o'r cwm. Aethpwyd i chwilio am dano, a chafwyd ef mewn congl gudd yn taer weddio. Ar ol galw ei hun i gyfrif, teimlai yn flin iawn fod y bobl wedi gorfod dysgwyl. Yr oedd ei hwyl y prydnawn hwnw yn rhyfeddol. Bu farw Hydref 16, 1790, yn 77 oed. Dywedodd wrth Nathaniel ei fab, y tro olaf y gwelodd ef, am lynu wrth yr Eglwys er pob erledigaeth — fod amser gwell ger llaw; ac er nad oedd yn brophwyd na mab i brophwyd, ond fod Duw wedi amlygu hyny iddo pan mewn gweddi. Meddyliai Nathaniel Rowland fod hyny wedi ei gyflawnu yn nyfodiad y duwiol a'r rhagorol Esgob Burgess i esgobaeth Ty Ddewi. Y Dr. Burgess ydoedd y Sais goreu a groesodd yr