Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hafren erioed. Efe a ymroddodd yn hollol am fod yn ddefnyddiol yng Nghymru, yn eglwysig a llenyddol Ond gwelwn mai Ymneilldüwr o wneuthuriad trawsawdurdodol yr Esgob Squire oedd Mr. Rowland, ac nid yn wirfoddol. Cyhoeddwyd "Deuddeg Pregeth" o'i eiddo pan yr oedd yn fyw, yng nghyd â chyfieithad o wyth o honynt yn 1774. Y cyhoeddwr oedd T. Davies, Hwlffordd. Ail gyhoeddwyd y pregethau er ys ychydig yn ol yn Llanbedr. Dylid deall na fu Mr. Rowland erioed yn rheithor Llangeitho; nid oedd pan drowyd ef allan ond curad i'w fab! Yr oedd y mab hwnw yn berson yr Amwythig. Mae amryw ddisgynyddion iddo ar hyd y wlad. Mae Mrs. Williams, Ty Melyn, Llangeitho, yn orwyres iddo. Yr ydym wedi gweled llawer o'i lyfrau, a'i enw yn ysgrifenedig arnynt, "Dan. Rowland."

(1) Nis gwyddom a oedd Llanddewi i mewn am y swm fechan hon.
(2) Dywed Mr. D. Jones, Dolau Bach, hynafgwr tua 87 oed, yr hwn sydd yn cofio Rowland, mai yn Nantcwnlle y bu hyny - iddo glywed hen wraig ag oedd yn yr Eglwys yn traethu hyny.

ROWLAND, DAVID (Dewi Brefi), a aned yn Ffos y Ffin, plwyf Llanddewi Brefi, yn Awst, 1783. Yr oedd yn fab i fenygwr, ac yn ieuengaf o bedwar o blant. Anfonwyd ef i'r ysgol pan yn bum mlwydd oed; ac yr oedd ei gynnydd mor fawr, fel y dechreuodd ar y gramadeg Lladin ym mhen tri mis. Parhaodd yn y modd hyny i ymchwilio am ddysg a gwybodaeth gyffredinol, nes yr oedd yn bedair ar ddeg oed; ac o herwydd amgylchiadau isel ei rieni, gorfu arno fyned i gadw ysgol i Dregaron, ac wedi hyny i Langeitho; ac ymsymmudodd o'r lle olaf i Lanllawddog, ac yn olaf i Bencadair, lle y dygodd ym mlaen ei alwedigaeth syml gyda llawer iawn o ffyddlondeb. Tra yno, ymunodd â'r Annibynwyr; ac o herwydd ei dalentau a'i gymmeriad da, cafodd ei annog i bregethu, a chymmeradwywyd ef i Athrofa Caerfyrddin. Bu yno yn ddiwyd iawn: ondo herwydd clywed un o'r myfyrwyr yn dadgan golygiadau tra gwahanol iddo ef ar Gristionogaeth, derbyniodd y fath effaith ar ei deimladau, fel y gadawodd yr athrofa. Penderfynodd fyned i Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig, a thra yno, daeth i'r penderfyniad o ymuno ag Eglwys Lloegr. Bu yno bum mlynedd, ac yn 1806, cafodd ei urddo ar guradiaeth Llanfihangel y Creuddyn. Cynnyddai yn fawr fel Cymreigydd. Tra yn gurad yn y plwyf hwnw, yr oedd ei hen athraw, y Parch. J. Williams,