wrth yr Eglwys, ac a gymmerent y sacramentau gan eu gweinidogion yn unig. Bu farw yn y Parc, sir Benfro, yn 1831, yn 82 oed, a chafodd ei gladdu yn Henllan Amgoed. Adwaenem wyr iddo o'r enw Nathaniel Scourfield.
SANDDE AB CEREDIG oedd fab Ceredig, tywysog Ceredigion. Blodeuai tua diwedd y pummed canrif. Rhoddodd diroedd at Eglwys Llanddewi Brefi, yr hwn, meddir, sydd ym meddiant yr Eglwys hyd heddyw. Priododd Non, merch Gynyr, o Gaergawch, a'i fab oedd Dewi Sant.
SAUNDERS, DAVID, gweinidog y Bedyddwyr ym Merthyr, a aned yn Undergrove, plwyf Llaubedr, yn Ionawr, 1769. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau cysurus. Bu yn yr ysgol gyda D. Jones, Dôl Wlff. Derbyniwyd ef yn aelod trwy Fedydd yn Aberduar, gan y Parch. T. Thomas, pan yn bymtheg oed. Dechreuodd bregethu yn 1795, a daeth yn fuan yn lled enwog. Cafodd ei urddo yn Aberduar yn 1800, yn gydweinidog â'r Parch. Secharias Thomas, Timothy Thomas, a D. Davies. Priododd Mehefin 23, 1815, & Margaret Jenkins, Dôl Wlff. Symmudodd i Gapel Sion, Merthyr. Bu yno yn llwyddiannus iawn. Bu farw ei wraig, ac ym mhen rhyw amser priododd eilwaith : ond dywedir na fu yn ddedwydd yn un o'i briodasau. Bu farw Thomas, ei unig blentyn, yn Hydref, 1837, trwy gwympo dros y llongborth yng Nghaerodor, yr hon fu yn brofedigaeth galed iawn i'r hen wr. Cafodd ei daro yn Hydref, 1837, gan ergyd o'r parlys. Bu farw Chwefror 3, 1840, yn 70 oed. Claddwyd ef ym mynwent Capel Sion, Merthyr. Yr oedd Mr. Saunders yn ddyn o gorffolaeth mawr, lygaid yn fywiog, ei dalcen yn fawr, a'i wyneb yn gul. Yr oedd yn fardd da, ac sgrifenodd lawer o awdlau a chaniadau rhyddion. Ysgrifenai pan yn lled ieuanc i'r Geirgrawn; ac ar ol hyny i gyhoeddiadau ereill. Bu dadl rhyngddo, mewn englynion, â Mr. Davis, Castell Hywel, ar Drindodiaeth, ac y mae cryn fedr ac arabedd i'w weled yn ei waith. Cyfieithodd draethawd ar "Deyrnas Crist," gan Abraham Booth, ac argraffodd ef yn 1810. Ym mhen blynyddau, cyhoeddodd