"Atebiad i'r Parch. T. Powell, Aberhonddu, ar Fedydd." Cyfieithodd hefyd waith Dr. Fawcet ar " Ddigofaint" yn 1826; ac yn fuan ar ol hyny, gwaith Mr. Westlake ar Fodydd." Ysgrifenwyd cofiant cryno iddo gan y Parch. John Williams, Aberduar. Bu iddo nai o'r enw Thomas Saunders (Cyndaf) yn wr o dalent, ac yn fardd.
SELBY, Evan, oedd fab Rowland Selby, o ardal Tregaron. Symumudodd ei rieni i America pan oedd yn dair blwydd oed. Daeth Evan ym mlaen yn ddyn gwrol fel rhyfelwr, a daeth yn gadben. Bu yn llwyddiannus i ostegu terfysg yr Indiaid yn ardaloedd y Mynyddau Duon. Mab iddo ydoedd y Cadben Isaac Selby, yr hwn a hynododd ei hun yn y rhyfel a ennillodd annibyniaeth y Taleithiau Cyfunol oddi ar Loegr; a mab Isaac oedd y Cadfridog Selby. Dywedir fod disgynyddion iddynt yn y Taleithiau yn bresennol. Perodd cyfrifoldeb y tylwyth i Mr. Beecher Stowe gymmeryd yr enw yn un o gymmeriadau "Bwthyn fy Ewythr Tom." Peth hynod yw, ymfudodd Mari Roberts, hen hen fam gu Mrs. Beecher Stowe, o Landdewi Brefi tua'r un pryd, os nid yr un pryd, a theulu Evan Selby. Aeth cangen o'r teulu hwn i Nefern, ac oddi yno i Weverdon, Buckingham. Dyma linach yr "Arian Mawr," ag y bu cymmaint ymdrech am danynt er ys blynyddau yn ol. Mae llawer o'r Selbyaid wedi eu bedyddio yn Nhregaron a'r Cilgwyn. Ymfudasant i America tua'r flwyddyn 1726.
SULIEN DDOETH, yr esgob enwog yn Nhy Ddewi, oedd ar y cyntaf yn perthyn i Gôr Llanbadarn Fawr, lle y dygodd i fyny ei bedwar mab mewn dysg offeiriadol, sef Arthen, Daniel, Ioan, a Rhyddmarch, am y rhai yr ydym wedi traethu yn barod. Dewiswyd ef yn esgob yn 1070. Rhoddodd ei swydd i fyny yn 1075; eithr ar ol llofrudd- iaeth yr Esgob Abraham gan y Daeniaid yn 1079, ar daer ddymuniad y bobl, efe a'i hadgymmerodd drachefn. Mae yn debyg iddo ymddiswyddo dair gwaith, ac ar gais y wlad adgymmeryd â'i swydd. Mae Caradog o Lancarfan yn rhoddi clod uchel iawn iddo: --"1088, bu farw Sulien Ddoeth, y doethaf a'r clodforusaf o'r holl esgyb yng Nghymru; goreu ei gynghor, a'i ddysg, a'i grefydd, ac