Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amddiffyn pob heddwch ac iawnder." Dilynwyd ef yn yr esgobaeth gan ei fab Rhyddmarch.

SULIEN AB RHYDDMARCH oedd fab i'r Esgob Rhyddmarch, ac wyr i'r Esgob Sulien Ddoeth, Yr oedd yn wr eglwysig o ddysgeidiaeth, a chymmeriad uchel yng Nghôr Llanbadarn Fawr. Yr oedd, medd Caradog, y doethaf mewn cynghor, a'r duwinydd dysgedicaf yn esgobaeth Dewi, a'r mwyaf yn ei weithgarwch yn ei oes mewn gwrthwynebu drygioni ac anfuchedd. Bu farw yn 1145.

SYDSYLLT AB CLYDAWG oedd frenin Ceredigion yn dechreu y nawfed canrif.

SYDSYLLT, un o abadau Ystrad Fflur, oedd yn ei filodau yn amser Giraldus Cambrensis, o gylch y flwyddyn 1188. Nid oes gwybodaeth pa bryd y bu farw.

SYMMONDS, CHARLES, D.D., a aned yn Aberteifi, yn y flwyddyn 1749. Bu ei dad yn cynnrychioli bwrdeisdrefi Ceredigion mewn tair eisteddiad o'r Senedd. Efe â addysgwyd i fyny yn ysgol Westminster, a Phrifysgol Glasgow, ac wedi hyny yn Clare Hall, Caergrawnt; ac yn 1776, cymmerodd ei radd o Febydd Duwinyddiaeth yn y Brifysgol. Trwy roddi tramgwydd mewn pregeth, yn yr hon y dangosodd olygiadau Whigaidd, yr hyn a ddinystrodd ei obeithion o ddyrchafiad, a chan ofni rhwystrau a gwrthwynebiadau pan yn sefyll am ei radd fel Doethor Duwinyddiaeth, efe a symmudodd i Goleg Iesu, Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn 1794. Efe a gafodd fywoliaeth Arberth, a Lanbedr Feltfre, a phrebendariaeth Clydai, oll yn swydd Benfro. Cafodd ei radd o D.D. tua'r flwyddyn 1784, yn Rhydychain. Ei waith cyntaf ydoedd cyfrol o bregethau (yn Seisonig). Yn 1789, efe a gyhoeddodd Sermon for the Benefit of Decayed Clergymen in the Diocese of St. David's; ac yn 1790, The Consequence of the Character of Individual and the Influence of Education in forming it. A Sermon in the Parish Church of St. Peter, Carmarthen, on Sunday, October 10th, 1790, for the benefit of a Sunday School, and published at the request of the Managers of the Charity. Yn 1797, daeth allan ei Inez, sef barddoniaeth chwareuol; ac yn 1800, un arall o'r enw Constanta. Yn 1806, daeth allan ei Life of Milton yn rhagarweiniol i