Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gei gymhorth i ddeall meddwl yr ysgrifenydd, ond i ti gymmeryd pwyll i ti ystyried; canys efe a amcanwyd y cyfansoddiad hwn mor gyfân ag a allwyd ag esboniadau y Parchedig ddifynyddion Simon Patrick ac ereill. Derbyn hyn o brydyddiaeth Gymreig ar ei hoes ddiweddaf, a chyn ei chladdu mewn cwbl anghof o blith y Cymry. Edward Evan." Ni welwn fod E. E. yn wr gonest am gyfaddef mai D. T. a ddechreuodd y gwaith. Mae rhyw Dafydd Thomas wedi fansoddi ar "Siroedd Cymru;" ond nis gallwn brofi mai y gwr hwn oedd. Yr oedd Edward Evan yn weinidog Henadurol yn Aberdar, ac yn fardd o Gadair Morganwg. Mae o'n blaen bregeth o'i eiddo, sef "Golwg ar Gynneddfau Gwasanaeth ac Anrhydedd Gwasanaethwyr Crist; mewn pregeth a lefarwyd o flaen Cymmanfa o Weinidogion yn y Dref Wen, yn gyfagos i'r Castell Newydd Emlyn, 1775, gyda dwy hymn: Caerfyrddin, argraffwyd gan J. Ross, MDCCLXXV."

THOMAS, FRANCIS (Ffranc Ddall, neu y Crythwr Dall o Geredigion), oedd enedigol o Lanwenog. Yr oedd yn deall cerddoriaeth yn dda, ac yn arfer chwareu y crwth. Yr oedd hefyd yn fardd. Dafydd Llwyd Brynllefrin fu ei athraw barddol, a Sion Llwyd, tadcu y Parch. D. Llwyd Isaac, oedd ei ysgrifenydd. Mae rhai caneuon o'i waith ym Mlodau Dyfed a llyfrau ereill. Yr oedd ganddo ast o'r enw Flora, yr hon oedd yn dywys o ddeutu, ac y mae ganddo farwnad iddi yn llawn o arabedd a llên gwerin, Blodeuai o gylch 1760 a 1799. Yr oedd yn aelod gyda'r Arminiaid yn Llwyn Rhyd Owain.

THOMAS, JENKIN, y bardd o'r Cwmdu, a aned ym Melin Drewen, plwyf y Brongwyn, o gylch y flwyddyn 1688. Enw ei dad oedd Thomas, neu Thomas Morgan Rhydderch. Yr oedd ei daid yn frawd i'r bardd Sion Rhydderch, argraffydd o'r Mwythig - Wrth ohebu a'i ewythr o'r Mwythig, dywedai, –

"Siencin ger llaw min y môr,
Ab Tomas ar bob tymmor,
Ab Morgan, dan gyfan go',
Ab Rhydderch draserch drwsio,
Ab Dafydd ab Gruffydd graff
Nod digri, ac nid digraff,