Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sy'n rhoddi i Sion Rhydderch
Arwyddion trwy swynion serch."

Ganed ei dad yn yr Allt Goch, Llanwenog. Cafodd Siencyn ei ddwyn i fyny yn grydd, ac yr oedd yn preswylio yn y Cwmdu. Yr oedd hefyd yn bregethwr yn y Drewen. Mae y Cwmdu, lle preswyliai y bardd, yn un o'r manau mwyaf rhamantus yng Ngheredigion: saif ar lan y Ceri, o fewn milltir i'w haberiad i'r Teifi. Un boreu, pan oedd y llif wedi cymmeryd ymaith farlys y bardd, dywedodd, —

"Aeth Ceri heini hynod — yn burlan
A'm barlys o'i ystod;
Cyfymodd, rhwymodd yn rhod,
Dyrnodd e'r un diwrnod."

Yr oedd y bardd yn ddyn o synwyr cryf, ac o gymmeriad moesol da. Yr oedd yn fardd rhagorol, yn uwch na neb o'i ddisgynyddion, ond Dewi Emlyn. Yr oedd ei dad yn ddeiliad i dad y Parch. Theophilus Evans, Llangammarch. Bu y bardd a'r hynafiaethydd yn cydchwareu ym moreu eu dyddiau — yn ymryson neidio, codymu, a chydymolchi, a nofio yn y Teifi; a buont yn gyfeillion trwy eu hoes. Mae ganddo anerchiad i Ddrych y Prif Oesoedd. Mae twysged o waith y bardd wedi ei gyhoeddi ym Mlodau Dyfed a llyfrau henach. Mae ganddo gywydd rhagorol o dlws ar farwolaeth Ifan Gruffydd, Tŵr Gwyn. Mae ei gywydd hefyd ar farwolaeth Sion Rhydderch, a argraffwyd gan Nicholas Thomas yng Nghaerfyrddin, yn 1736 yn gyffelyb. Mae ei gywydd-anerchiad i "Meddyliau Neillduol ar Grefydd," o gyfieithad layo Ab Dewi, yn rhagorol iawn. Dywed am y llyfr —

"Perl enwog eurog araith,
Piler dysglair, diwair daith;
Llwyn addas yn llawn addysg,
Llwyn a ddaeth yn llawn o ddysg."

Ac ym mhellach dywed, —

"Deued gwŷr llên yn dawel
A’u difyr gynghyr heb gel,