Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddychwelyd i Geredigion, bu yn preswylio am dro yn Nhrefhedyn Emlyn, wedi hyny yn Aberteifi, ac yn olaf yn Rhiwfelen, Aberporth. Ar ol marwolaeth ei dad, cafodd gan Esgob Ty Ddewi fywoliaeth Aberporth, ac hefyd, meddyliwn, guradiaeth barhäus Llanddewi Aberarth. Yr oedd Mr. Thomas yn hynafiaethydd rhagorol, yn gyfarwydd ag hanesyddiaeth yn gyffredinol, yn neillduol hanes ei wlad enedigol. Ysgrifenodd Memoirs of Owen Glyndwr, yr hwn gyhoeddodd yn 1816. Mae y llyfr hwnw yn rhoddi hanes lled fanol o'r gwron Glyndyfrdwy a'i amseroedd. Cynnyrchodd hefyd amryw lythyrau lenyddol i'r wasg Seisonig mewn cyssylltiad & hynafiaethau ei wlad; ac efe a gynnorthwyodd y Meistri Carlisle a Lewis yn eu geiriaduron lleol ar y rhan isaf o Geredigion. Bu farw Chwef. 28, 1847, yn 81 mlwydd oed, gan adael ar ei ol air da gan bawb. Mae y Parch. Mr. Thomas, periglor Trelech ar Bettws, yn fab iddo; a nith iddo yw Mrs. Evans, o Aberteifi, gynt o'r Henbant, awdures llyfr o'r enw Bara Beunyddiol.

THOMAS, THOMAS, Llanfair, oedd ail fab Thomas Thomas, Ysw., Llanfair, a Jane ei briod, yr hon oedd ferch henaf y Parch. D. Lloyd, Llwyn Rhyd Owain, ac wyres y Parch. Jenkin Jones, sylfaenydd Llwyn Rhyd Owain. Yr amser hwnw, sef tua diwedd y canrif diweddaf a dechreu y presennol, yr oedd bagad o'r Arminiaid neu yr Ariaid yn Llwyn Rhyd Owain, o dan weinidogaeth Mr. Davis o Gastell Hywel, wedi myned i goleddu Undodiaeth; ac ar fyr, codwyd dau addoldy Undodaidd, un yng Nghapel y Groes, Llanwnen, lle yr oedd D. Jenkin Rees o Lwydjack â'r ysgwydd gryfaf, a'r llall ym Mhant y Defaid, lle y daeth Mr. Thomas Thomas yn un o'r cyonorthwywyr penaf. Yr oedd yn Mr. Thomas erioed duedd gref i'r weinidogaeth, a bu unwaith ar fin myned i'r atbrofa, eithr attaliwyd ef gan ddechreuad y clefyd gwenieithus a fu wrtho am ddeng mlynedd, ac o'r diwedd a fu yn angeu iddo. Meddai ar alluoedd meddwl cryfion a threiddiol, y rhai a wrteithiai trwy gyfran helaeth o ddysg ysgolheigiol, trwy ddarllen llawer, ac yn enwedig trwy gymdeithas bersonol â'r Parch. John James, diweddar o Gelli Onen,