Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond y pryd hwnw o Gapel y Groes a Phant y Defaid; a D. J. Rees. Yr oedd ei dymmer yn nodedig o addfwyn, hynaws, a chymmodlawn, a'i haelioni y fath fel ag yr anghofiai ei hun yn llwyr gan ei awydd i lesäu y cyhoedd, a gwneyd rhyw ychydig tuag at oleuo a dedwyddu ei oes a'i wlad. O'i febyd, yr oedd ei fuchedd o'r mwyaf dichlynaidd, a gellir dyweyd ei fod yn un o'r cymmeriadau hyny ag ydynt o'r dechreu yn lân yn anadlu awyr y nef. Dangosodd amynedd a melusder profiad nodedig yn ei gystudd hirfaith, a bu farw yn llawn o ffydd yng Nghrist, a dedwydd obaith am adgyfodiad i fyd a bywyd gwell. Bu farw yn ddyn ieuanc, yn Awst, 1818, a chladdwyd ef yn ol ei orchymmyn tu fewn i Gapel Pant y Defaid. Gadawodd gymmun-roddion i'r Parch. John Thomas, y gweinidog, a'r Parch. John James, yr hen weinidog, yng nghyd â 200p. ar gyfer y weinidogaeth ddyfodol, a 30p. at adeiladu mur o amgylch y fynwent. (1)

(1) Rhoddasom yr ysgrif hon i mewn fel y cawsom hi oddi wrth weinidog Undodaidd dysgedig.

THOMAS, THOMAS EMLYN (Taliesin Craig y Felin), a anwyd ym Mhen y Graig, plwyf Penbryn, yn Nhachwedd, 1822. Bu yn yr ysgol yn Nhroed yr Aur, ac wedi hyny yn Ffrwd y Fal, dan yr enwog Dr. Davies, ac yn olaf yng Ngholeg Henadurol Caerfyrddin. Bu am rai blynyddau yn weinidog gyda'r Undodiaid yn y Cribyn a Chiliau Aeron. Yr oedd yn fardd da iawn, fel y gwelir ei waith yn Seren Gomer am flynyddau. Ysgrifenodd hefyd lawer o draethodau i'r cyhoeddiad hwnw. Ennillodd un wobr yn Eisteddfod y Fenni yn 1846. Yr oedd efe a James Evans, Capel Gwnda, ac ereill yn yr ardal, wedi meithrin llawer iawn o chwaeth lenyddol, pan nad oedd yno neb felly cyn iddynt hwy godi i fyny. Bu farw Ebrill, 1847, yn 24 mlwydd oed.

TURNOR, DAVID, A.C., oedd fab David Turnor, ac wyr Lewis Turnor o'r Crug Mawr, plwyf Llangoedmor. Yr oedd ei daid yn ddiarebol am ei onestrwydd, fel yr arferid dywedyd "Mor onest a Lewis Turnor." Cafodd Mr. Turnor ei ddwyn i fyny yn Rhydychain, lle y cymmerodd ei raddau o B.C., ac wedi hyny ei A.C. Urddwyd ef yn