Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/247

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aberteifi, i wasanaethu yn y. Senedd, yr hon gyfarfu yn Westminster, Mai 1, 1661, ac yr oedd y brenin ar y pryd hwn ar gymmeryd sylw o'i ddefnyddio. Efe wedi hyny a'i anrhydeddodd a'r dyrchafiad o Farchog, ychydig ddyddiau cyn iddo yn ddifrifol gael ei dyngu yn Ringyll y Gyfraith yn y Canghell-lys yn Westminster. yr hyn gymmerodd le Mai 22, 1668, a'r dydd canlynol efe a dyngwyd yn Arglwydd Prifynad y Dreflys. Ysgrifenodd a chasglodd Reports and Arguments, being all of them special cases, and many, wherein he pronounced the Resulutions of the whole Court of Common Pleas, at the time he was Lord Chief Justice there. London, 1677. Cyhoeddwyd hwn gan ei fab Edward Vaughan, Ysw., gan adael amryw bethau ereill i'w cyhoeddi. Dywed Wood ei fod yn ddyn o werth mawr, yn gyfreithwr enwog, ac ym mhob modd yn foneddwr cyflawn. Bu farw yn 1674, ac a gladdwyd yn Temple Church, yn agos i fedd John Selden ac mae y beddargraff canlynol ar ei fedd:

"Hic situs est Johannes Vaughanus Esq., Aur. Capital. Justiciar. de Com. Banco, filius Edvardi Vaughan de Trawsgoed in agro Dimetarum Ar.&c. Leticiae uxoris ejus, filiae Johannes Stedman, de Strataflorida, in eodem Com. Ar. unis e quatuor perdocti Seldeni Executoribus, ci stabili amicitia studiorumque communione a tyrocinio intimus &c praecarus. Natus erat xiiij. die Sept. an. Dom. 1608, & denatus. X. die Decemb. an. Dom. 1674, qui juxta hoc marmor depositus adventum Christi propitium expectat multum deploratus."

Y mae darlun o'r boneddwr dysgedig hwn yn Leeswood, ger y Wyddgrug, o'r hwn mae cerfiad wedi ei dynu a'i osod yn Yorke's Royal Tribes of Wales. Cafodd ei wyr, John Vaughan, ei greu yn Is-iarll Lisburn, Arglwydd Vaughan, yn 1695, o'r hwn y mae y presennol Iarll Lisburn yn deillio. Y mae llyfrau yr achau yn amrywio gyda golwg ar haniad y Fychaniaid hyn. Dywed rhai fod y teulu yn hanu o Gollwyn ab Tango, Arglwydd Meirionydd; ond dywed Dr. Powell mai o Einon ab Collwyn, Arglwydd Senghenydd, y maent yn deillio. Cawn i bendefig o'r enw Adda Fychan. briodi etifeddes Siencyn Goch ab Gruffydd o'r Trawsgoed; ac wedi hyny, bu yn y Trawsgoed; Meredydd Fychan, Adda Fychan,