Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llywelyn Fychan, Jenkin Fychan, Morys Vaughan, Richard Vaughan, Ysw., Morris Vaughan, Jenkin Vaughan, Edward Vaughan, sef tad Syr John Vaughan.

VAUGHAN, JOHN, oedd fab Edward Vaughan o'r Trawsgoed, a grewyd yn farwn gan Gwilym III., trwy fraintlythyr, dyddiedlig Mehefin, 1695; ac yn fuan ar ol hyny yn İs-iarll, wrth yr enw Is iarll Lisburn, Arglwydd Vaughan, Baron Feathers, yn yr Iwerddon. Priododd Malet Wilmot â thrydedd merch John, Iarll Rochester. Bu farw yn 1721. Bu farw Henry ei fab heb briodi. Priododd John, yr ail Is-iarll, y tro cyntaf & Miss Bennet, merch Syr John Bennet, Bar., Rhingyll y Gyfraith, a'r ail waith â Dorothy, merch Richard Hill, Ysw., ac a fu farw heb fab yn 1741, pryd y disgynodd yr urddas i Wilmot, y trydydd Is-iarll. Priododd y trydydd Is-iarll ag Elizabeth, ferch Thos. Watsun, a bu farw Ionawr, 1766. Gadawodd ddau fab ac un ferch. Yr oedd John yn Gadfridog, ac anrhydeddwyd ef ag urdd filwrol y Bath. Bu farw Mehefin 30, 1795. Wilmot ei fab a'i dilynodd. Cafodd yr urddas o Iarll, Gor., 1770. Olynwyd ef gan ei fab Wilmot. Ganed yr iarll presennol Mai 6, 1799.

VAUGHAN, JOHN CROSBY, oedd fab ac etifedd y diweddar Gad. Vaughan o'r Breinog. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Milwrol Sandhurst. Yr oedd yn swyddog yn y 38fed gatrawd, pan dorodd rhyfel y Crimea. Cododd yn gyflym mewn dyrchafiadau, ac i fod yn gadben. Cafodd ei glwyfo yn farwol ar y 15fed o Fehefin, 1855, a bu farw yn 25 mlwydd oed. Cwympodd y gwron ieuanc hwn o Lan Aeron wrth ryfela dros ei wlad, fel y ddau wron Cynrig a Chynon o Aeron, ym mrwydr ofnadwy Cattraeth.

WALTERS, THOMAS, a aned yn Lletty Cybi, Llangybi. Cafodd addysg athrofaol, a chafodd ei urddo yn y Cilgwyn. Ymsefydlodd yn Rhaiadr Gwy, a bu yno yn weinidog am 29 o flynyddau. Dywedir mai efe oedd y gweinidog Henadurol cyntaf yn y dref hòno. Daeth y diweddar Henry Thomas, Ysw., Llwyn Madog, i feddiant o ystad Lletty Cybi, fel disgynydd ac etifedd Mr. Walters. Priododd merch Mr. Walters ag un o Thomasiaid Llwyn Madog,