Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYNDDYLIG, un o seintiau y cynoesoedd. Ymddengys fod addolfa wedi ei hadeiladu ganddo ym mhlwyf Llanrhystud, lle yr oedd enaid rhydd, o hanner dydd nos Calangauaf, hyd hanner dydd ddydd Calangauaf ac offrwm ceiliogod rhag y pas, yn amser Pabyddiaeth.

CYNHUDYN, sant a flodeuodd yn y chweched canrif. Yr oedd yn fab i Bleiddyd ab Meirion, a deon yng Nghôr Llanbadarn Fawr, a meddylir, wrth gerfiad ym mynwent Llanwnnws, iddo gael ei gladdu yno.


CYNLLO AB MOR ydoedd fab Cenau ab Coel Coedhebog. Efe a sylfaenodd Llangynllo a Llangoedmor, yng Ngheredigion, yn gystal a Llangynllo, Llanbister, a Nantmel, yn Swydd Faesyfed. Y mae cofion o hono yn cael eu cadw yn Llangoedmor, sef, "Cerwyni Cynllo;" "ol traed march Cynllo," &c. Y mae y nant hon ger llaw yr Eglwys, ac yr oedd melin yma gynt, o'r enw "Melin Gynllo." Tybiai y dysgedig Broffeswr Rees, fod cyfoeth ganddo yn ardal Llangynllo, Maesyfed; ac fe ellir, ar yr un tir, dybied yr un peth am y ddwy ardal yng Ngheredigion. Gelwid ef mewn rhai hen argraffiadau o'r Llyfr Gweddi, yn "Cynllo Frenin." Yr oedd yn ddiau yn sefyll yn uchel yn ei gyssylltiadau gwladol, ac yn llawn mor uchel yn ei gym- meriad crefyddol. Blodeuodd yn y pummed canrif.


CYNOG, a elwid hefyd Cinothus, oedd ail esgob Llanbadarn Fawr, a chanlynodd Dewi Sant yn archesgobaeth Ty Ddewi, tua'r flwyddyn 544. Bu farw yn fuan ar ol hyny.


DAFYDD, un o abadau enwog Ystrad Fflur. Yr oedd yn ei flodau yn amser y Tywysog Rhys ab Gruffydd, gwaddolwr y fynachlog. Bu farw yn y flwyddyn 1182.


DAFYDD AB GWILYM, un o'r beirdd ardderchocaf, os nid yr ardderchocaf oll, a anwyd yng Nghymru erioed. Ymddengys iddo gael ei eni ym Mro Gynyn, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, tua'r flwyddyn 1340. Yr oedd o du ei dad yn perthyn i brif deuluoedd Gogledd Cymru. Gallasai gyfrif ym mysg ei berthynasau yr enwogion Llywarch ab Bran, ac Owain Gwynedd, a'u holl gyssylltiadau. Yr oedd mam y bardd yn chwaer i Lywelyn ab Gwilym