Fychan, Arglwydd Ceredigion, yr hwn oedd yn un o'r boneddigion pwysicaf drwy y Deheudir. Bu farw ei fam pan oedd yn dra ieuanc, ac yn ol yr hanesion cywiraf, ar ei enedigaeth. Treuliodd Dafydd a'i dad gryn amser yu lllys Ifor Hael, ym Maesaleg. Bu hefyd yn ei febyd yn treulio llawer iawn o'i amser gyda'i ewythr, yn Emlyn, a Dolgoch, ym mhlwyf Troed yr Aur. Yr oedd ei ewythr yn wr o feddwl bywiog a chraffus, ac yn fuan efe a ganfu ddefn- yddiau bardd yn ei nai. Yn yr amser hwnw, yr oedd yr Awen Oymreig wedi cael ergyd agos iawn i fod yn farwol yn narostyngiad y dywysogaeth gan Iorwerth I., ac yn ol pob tebygolrwydd' yr oedd y beirdd wedi bod yn wrthddrychau dialedd y penadur hwnw, gan eu bod yn offerynau i gadw gwladgarwch yn fyw yn y wlad, ac i annog eu cydgenedl i godi yn erbyn y goresgynwyr. Dywed y cofnodion Cymreig "nad oedd nemawr a wyddai gelfyddid a gwybodau cerdd dafod namyn ym Morganwg, a Mon, a Cheredigion, achos colli y tywysogion a gefnogasant y prydyddion. Ond yn y tri lle a nodwyd, yr oedd yr hen wyddor odidog wedi dal ar glawr, ac yr oedd Llywelyn ab Gwilym Fychan yn fardd ei hun; ac felly efe a gymmerodd at ddysgu y gelfyddyd i'w nai ieuanc. Yr oedd Dafydd yn dysgu pob peth a fynegai iddo gyda'r parodrwydd mwyaf. Yr oedd ei fywiogrwydd a'i arabedd swynol yn synu a swyno pawb : ac felly yr oedd ei ewythr yn cael tâl da am ei ddysgu. Dywedir i'w dad briodi ail wraig, pan oedd y bardd tua phymtheg oed, ac i Ddafydd gael ei alw i aros ym Mro Gynyn; ond ni fynai y bardd ieuanc fyw yno; nis gallasai edrych gyda llawer o sirioldeb ar ei lysfam; ac yr oedd ei ddull difyr a gwawdfyd yn hollol groes i anianawd gwraìg ei dad. Edrychai y llysfam yn sarig; ac yr oedd rhyw duedd anorchfygol i wawdio, a gwneyd pobpeth yn destyn chwerthin, ynddo yntau. Pan yn yr adfyd hwn, gadawodd Dafydd dy ei dad ac a wynebodd i lys Ifor Hael. Ifor wrth weled ei gâr ieuanc yn wr o ddysg a dawn, a'i penododd yn athraw i'w ferch. Aeth pethau ym mlaen yn y modd hwn am ryw ennyd yn weddol gysurus. Pa faint o gynnydd oedd y rhian bendefigaidd yn wneyd, nid ydyw yn eithaf hawdd penderfynu.