Yn yr amser hwn yr oedd y bardd yn derbyn y parch a'r caredigrwydd mwyaf yn y llys; ac yr oedd ei fynwes yntau yn llawn o deimladau hyfryd a diolchgarwch diffuant. Ond beth bynag am gynnydd y bendifiges mewn dysg, ac am ymdrechion y bardd i'w dysgu, nid ydyw y byd wedi cael ei anrhegu â gwybodaeth; ond cwympodd y bardd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad at ei ddysgybles, a thebyg iddi hithau fyned i'r un graddau o serch ato yntau; ac nid oedd yn hawdd cael sefyllfa yn fwy manteìsiol tuag at feithrin yr elfen fywiol a chynnyddol nag yn yr ystafell, lle yr oedd y gwersi yn cael eu rhoddi gan yr athraw ieuanc. Tebyg i'r bardd a'i anwylyd ymdrechu cuddio y gyfrinach angerddol mor bell ag oedd modd; ond cyn hir, canfu llygad craffus Ifor fod arwyddion cariad i'w gweled yn y symmudiadau. Wedi darganfod peth o'r fath yn myned ym mlaen, buasai boneddigion yr oes bresennol ar fyr amser yn dangos y drws i'r athraw; ond ymddygodd Ifor yn wahanol. Nid oes hanes iddo ffromi yn anfaddeuol tuag at y bardd; ond penderfynodd ymddwyn dipyn yn greulawn at y ferch, drwy ei hanfon i leiandy ym Mon. Ar ol i'r ffyddlawn fardd weled hyn, efe a wynebodd tua Mon ar ei hol, ac a ymgyflogodd megys gwas i abad mynachlog gyfagos, gan feddwl felly y buasai yn debyg gael cyfle i weled ei anwylyd; ond bu yn aflwyddiannus. Y mae yn debyg mai ym Mon, yn yr amser hwnw, y cyfansoddodd ei gywyddau ardderchog i ferch Ifor Hael, dan yr enw Lleian, Ond er pob ymdrech, nid oedd modd cael gweled gwrthddrych ei serch: yr oedd rheolau y lleiandy yu rhy fanwl a chaethiwus; ac yn y diwedd, rhoddodd y bardd yr ymdrech i fyny, a dychwelodd i Ddeheubarth Cymru, a derbyniodd drachefn o garedigrwydd a haelder ei hen gymrawynaswr, Ifor Hael,lle y bu yn caftrefu am lawer o flynyddoedd, gan ymweled weithiau â Brogynyn, ei le genedigol. Tra yn aros yn llys Ifor, etholwyd ef fel prif-fardd i gadair Morganwg; ac felly gelwid ef weithiau yn Dafydd Morganwg, a Bardd Ifor. Yn yr amser hwnw yr oedd boneddigion Cymru yn dal at yr hen nodwedd Gymreig a gwladgarol: yr oedd y beirdd yn uchel yn eu golwg. Yn y cyrameriad hwn yr
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/28
Gwedd