oedd Dafydd ab Gwilym yn fynych yn ymweled â phendefigion y wlad; ac mewn gwleddoedd o raddau uchel, nid oedd modd iddynt fod yn gyflawn heb gael y bardd glandeg ei wedd a swynol ei awen i'w difyru â'i 'ffraethineb. Ond yr oedd llys, neu yn hytrach lysoedd, ei ewythr a'i athraw, Llywelyn Fychan o Emlyn, yn gyrchfa aml ganddo. Un tro yn Ëmlyn, pan yr oedd y gwin a'r medd yn rhedeg yn rhwydd, yr oedd y bardd ieuanc Dafydd ab Gwilym a Rhys Meigan yn bresennol, ac yn ol arfer yr oes, yr oedd Dafydd wedi cael ei osod yn gyff cler. Mewn cyff cler, y mae caniatâd i oganu y cyff, ond peidio dywedyd yr hyn sydd wirionedd am dano. Ymddengys fod Rhys wedi tori y rheol hon, trwy ganu i Ddafydd bethau nad oeddynt weddus, sef edliw iddo mai mab llwyn a pherth oedd. Ond buasai yn well i Rys ymattal; cyffrodd teimlad ae awen y bardd, a chyfansoddodd linellau ffraethlym, a chyfododd y dyn ieuanc glandeg i fyny, gan wneuthur gwên wawdlyd i adrodd ei waith. Yr oedd dystawrwydd drwy y lle, yr oedd y corn hirlas a'r medd yn cael llonydd heb ei gyffwrdd; yr oedd y boneddigesau yn edrych gyda phryder rhyfeddol ar yr adroddydd. Yr oedd ei brydferthwch yn swynol, ac yr oedd ei ystum areithyddol yn ardderchog a meistrolgar; ac yr oedd y gwawd a arllwysai ar ben Rhys yn ofnadwy a chwerthinol. Torai y boneddigesau a'r boneddigion i chwerthin; ond yr oedd Rhys Meigan yn ddystaw, ac yn ymchwyddo fel llaeth ar dân gwyllt; ac erbyn diwedd yr adroddiad, dyma y twmpath mawr o ddyn yn syrthio i lawr yn farw, heb gyfodi mwy. Dywed rhai mai ym Morganwg y bu hyn; ond y mae y mwyafrif o ysgrifenwytr yn dywedyd mai yn Emlyn y bu. Yr oedd Dafydd wedi cael galluoedd meddyliol cryfion, ac hefyd brydferthwch corfforol braidd yn anghymharol; a rhwng prydferthwch a dawn, yr oedd yn sefyll yn uchel yng ngolwg y rhyw deg. Dywed y Parch. D. Jones o Lanfair, yr hwn a ysgrifenodd yn amser y Frenines Elisabeth, ei fod yn cofio hen wraig, yr hon a fuasai yn gydnabyddus ag un arall ag oedd adnabyddus â Dafydd ab Gwilym, yr hon a'i darluniai yn dal a hirfain, a gwallt melyn orych yn llaes dros ei ysgwyddau, ac yn llawn
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/29
Gwedd