Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

modrwyau heirdd; ac y mae yntau ei hun yn dywedyd fod y merched, yn lle gwrando ar y gwasanaeth yn Eglwys Llanbadarn Fawr, yn arfer husting fod gwallt ei chwaer ganddo ar ei ben. Cymmaint oedd ei brydferthwch a'i hawddgarwch, fel nas gallasai y boneddigesau yn un man wrthod ei gyfeillach. Y mae traddodiad fod ganddo un waith bedair ar hugain o gariadon yr yr un pryd; a chan fod difyrwch a gwawd lonaid ei natur, efe a aeth ar daith garwriaethol; ac wedi galw heibio iddynt, efe a'i gwahoddodd dranoeth i'w gyfarfod dan dderwen fawr lydanfrig. Nid oedd y bardd, wrth reswm, wedi mynegu iddynt am y gymmanfa gariadol; ac felly ymdrechodd pob un ddyfod yno mor ddystaw ag oedd modd. Aeth y bardd yno o'u blaen, a dringodd i ben coeden cyn yr amser penodedig, gan ymguddio yn y brigau tewion. Daeth pob un o'r merched yno, yn ol yr addewid — pob un yn ffyddlawn i'w gair. Yr oedd pob un yn llygadrythu ar y llall, a phob un yu gwneyd golwg am y suraf, gan ryfeddu yn aruthrol beth allasai fod eu neges. O'r diwedd, torodd yr un ryddaf ei meddwl i draethu ei neges: "Daethym yma i gyfarfod â Dafydd ab Gwilym," meddai hi. "Ha!" ebai y llall, "dyna yw fy neges innau." Ac erbyn hyny, yr oeddynt bob un yn llefaru yr un peth am y cyntaf Yn y fath siomedigaeth, wedi eu llenwi o ddigofaint, cydunodd y gynnadledd fenywaidd i ymddial ar y twyllwr, gan gytuno i'w ladd cyn gynted ag y deuai. "Ni a fyddwn yn angeu i'r dyhirwas," oedd yr un fanllef yn esgyn i frig y goeden. "O, aie yn wir," atebai y bardd, gan gipdremu trwy y cangau, "os gellwch fod mor greulawn; yna, —

"Y butain wen, fain fwynaf — o honoch,
I hòno maddeuaf;
Tan frig pren a heulwen haf,
Teg anterth, t'rawed gyntaf."


Cafodd y llinellau hyn yr efíaith a ddysgwyliasid gan y bardd yn yr adeg gyfyng. Hwy a ddechreuasant ammheu purdeb y naill y llall, yr hyn yn y man a arweiniodd i ryfel cyfíredinol rhwng y pedair ar hugain, yr hwn a derfynodd yn ninystr yr hollbenwisgoedd a'r cochlau. Ym