mhoethder y frwydr, disgynodd y bardd mewn perfaith ddiogelwch ac a rodiodd ymaith, gan adael y rhianod i ddwyn y rhyfel ar eu traul eu hunain. Ond wrth gellwair yn y modd hwn, daeth y bardd cyn hir i ofid blin; daeth i adnabyddiaeth â Moifydd, merch Madawg Lawgam. Ymddengys iddo ymgyfarfod â'r rhian hon yn Rhos, ym Mon, lle y denodd ei sylw. Gawn yn un o'i gerddi iddo anfon anrheg iddi, ac iddi hithau ddiystyru y cynnyg gymmaint, fel y taflodd ef am ben y llanc a'i dygasai. Y mae rhai hanesion yn myuegu mai trwy ei gwaredu oddi wrth ryw ddynion a fwriadent ei bradychu, yr ennillodd efe ei serch. Beth bynag am y modd, efe a ddyfal barhaodd nes iddi gydsynio â'i ddymuniadau, ac ennillei ymddirìed. Unwyd hwy mewn dull nid anarferedig yn yr oesoedd hyny. Gyrchodd y bardd a'i anwylyd, yng nghyd a'i gyfaill Madawg Benfras, bardd ardderchog, yr hwn a gyflawnoidd y swydd gyssegredig o offeirad, ar yr achlysyr, yng ngŵydd corgeiniaid asgrllog y coed yn unig, un o ba rai, sef y fwyalchen, medd y priodfab, oedd y clochydd. Ar ol hyn, ystyrient eu hunain megys un; a'u bywyd yn ol hyny a gadarnhaodd yr ymrwymiad. Ond yr oedd tad a pherthynasau Morfydd yn barnu yn wahanol, ac yr oeddynt yn chwerw yn erbyn yr uniad; hwy a annogasant hen gleiriach cyfoethog, sef Cynfrig Cynin, i ddyfod yn gyd-erlynydd â'r bardd; a threfnwyd y oynlun mor bell ag i gymmeryd Morfydd ymaith oddi wrtho, a'i phriodi yn drefnus â Chynfrig Cynin, yn unol â rheolau yr Eglwys. Ar ol hyn daeth Cynfrig Cynin yn wrthddrych casineb a difriaeth y bardd, gan yr ystyriai ei fod, nid yn unig wedi myned â gwrthddrych ei serch, ond hefyd eiddo cyfreithlawn iddo. Bu y bardd trafferthus am hir amser yn methu cael golwg ar ei anwyl Forfydd. Ond ryw bryd, ar ol ymofyniad manwl, tyciodd o'r diwedd iddo eìichael, ac ei chymmeryd ymaith. Ond ni pharhaodd y gymdeithas hon yn hir wedi hyn drachefn; dygwyd Morfydd ymaith, ac erlyniwyd y bardd yn erwin gan y Bwa Bach," trwy ei ddirwyo yn drwm iawn, am yr hyn, gan ei fod yn analluog i dalu, efe a gafodd ei daflu i garchar. Tebyg y buaaai y bardd wedi cael marw yn y carchar, oni buasai i bobl dda Morganwg
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/31
Gwedd