cael ei welläu gan y wybodaeth helaeth a dyddorol ag oedd ei feddwl llawn of yn gallu gyfranu. Ond nid oedd yn llai fel rheithor nag oedd fel meistr: yr oedd yn gyflawn yn y cylch hwnw hefyd. Yn ol cynllun yr High School, yr oedd pedwar athraw clasurol ieuanc wedi eu penodi gydag ef, heb law mewn rhanau cyfochrol; a thrwyddynt i gyd yr oedd ei ddylanwad yn cael ei deimlo. Gyda'i ysgolheigiaeth helaeth, ei ddull bywiog, a'i gof nerthol, yn ymwybodol o'i nerth, ac yn gymdeithasgar yn ei dymmer eisteddai i lawr yn ddyddiol ym mhlith rhai ieuainc yn yr Academy Lodge i gyfranu addysg yn cyffwrdd ag helyntion yr Alban, gan chwalu pob pwnc, hen a diweddar, clasurol a chyffredinol, ym mhob ystyr yn dwyn ym mlaen ddybenion y sefydliad yn y moddau ardderchocaf."
Yn gyfeillion iddo yr oedd Syr W. Scott, Maculloch, John Gibson Lockhart, Syr Thomas Dick Lauder, Arglwydd Cockburn, Arglwydd Jeffrey, Proffeswr Wilson, a'r Milwriad Mure. Efe a ddarllenodd wasanaeth angladdol Syr W. Scott, yn Dryburgh Abbey. Yr oedd Syr William Hamilton, Dr. Chalmers, Carlyle, a Syr Daniel Santford, ac yntau, yn gyfeillion gwresog. Pan yn aros yng Nghaereiddin, ysgrifenodd a chyhoeddodd The Life of Alexander the Great; The Geography of Ancient Asia; a Homerus Darllenodd amryw bapyrau ar bynciau ieithyddol, cenedlegol, ac athronyddol o flaen Cymdeithas Freninol Caereiddin. Ysgrifenodd hefyd erthyglau meistrolgar i'r Quarterly Review, pryd hyny o dan olygiaeth ei gyfaill a'i gydolygydd Mr. Lockhart. Dygodd y diweddar Esgob Llundain y ganmoliaeth a ganlyn i'w hen athraw ac addysgydd:—"Yr oedd yr archiagon, heb law yn cael ei barchu yn fawr gan ei efrydwyr, yn gadael olion parhäus o'i lwyddiant fel ysgolor ac addysgydd, nid yn unig ar ei ysgolheigion, ond ar yr holl Alban."
Priodolai yr esgob iddo y symmudiad mawr o godiad safon dysg yn yr Alban. Ar ol treulio cymmaint amser yn yr Alban, hiraethai am wneyd lles i'w wlad enedigol. Pan sefydlwyd ysgol newydd Llanymddyfri, gan Thomas Philips, Ysw., cafodd yr archiagon gynnyg ar fod yn Warden iddi, ac efe a dderbyniodd y cynnyg. Am bum