mlynedd, ni attaliodd un llafur corfforol na meddyliol er mwyn dyrchafu y sefydliad, ac i ddwyn allan holl fwriadau Mr. Philips. Ar ol llafur caled, efe a orfu roddi ei swydd i fyny o herwydd gwendid iechyd. Gadawodd Llanymddyfri, gan adael hiraeth ar bawb ar ei ol. Cydnabu ymddiriedwyr y sefydliad ei wasanaeth pan yr oedd yn ymadael. Pan fu farw, er fod hyny ym mhen blynyddau ar ol gadael Llanymddyfri, eto canwyd y maelfëydd ar ddydd ei angladd, yn arwydd o barch iddo. Gwnaed yr un peth yn Bushy Heath, er nad oedd wedi bod yno ond hanner blwyddyn; ac ar awr ei angladd, cafodd ysgolheigion Athrofa Caereiddin eu rhyddhau gan y rheithor, a'r ysgol ei chau. Bu farw yn Bushy Heath, Herts, Rhagfyr 27, 1858, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn y lle hwn. Yr oedd yn ei angladd Arglwydd Esgob Llundain, Syr David Davis (ei frawd yng nghyfraith), Dr. Williams, penaeth Coleg Iesu, Rhydychain, a'r Hybarch Archddiacon Sinclair. Ar ei farwolaeth, collodd Cymru un o'i meibion enwocaf a fagodd yn unrhyw oes. Yr oedd yn ddyn o alluoedd goruchel, a diwydrwydd diorphwys; ac er ei fod wedi troi ym mysg dysgedigion uchelaf Lloegr a'r Alban, nid oedd yn anghofio gwlad ei enedigaeth. Yr oedd yn hoffi ei hiaith a'i llenyddiaeth; ïe, a phob peth anrhydeddus ac hynafol a feddai. Nid oedd arno ofn traethu y gwir wrth ei hamddiffyn. Pan ymsefydlodd yn Llanymddyfri, cyfansoddodd gerdd Ladin ysblenydd ar yr amgylchiad, yr hon a gyfieithwyd i'r Saesoneg a'r Gymraeg. Dangosai ynddi wybodaeth ddofn o hanes ei wlad, yn gystal a serch trwyadl ati. Yr oedd yn bresennol yn yr Eisteddfodau; ac yr oedd yn un o feirniaid Eisteddfod Rhuddlan. Yn 1854, efe a gyhoeddodd Gomer, yn ddwy ran, a'i Life of Julius Cæsar, yn yr hwn y dengys ymdrafodiaeth y rhyfelwr mawr hwnw â'r cenedloedd Celtaidd, mewn dull mwy cydunol â'r gwirionedd nag y gellir cael mewn hanesion poblogaidd ar yr un testyn. Yn y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd, efe a gyhoeddodd, trwy y Mri. Hughes a Butler, lythyrau tarawiadol, A Barbarian Episcopate; a thrwy Mri. Rivington gyfrol o Discourses and Sermons, the Unity and the Will of God; a chyfrol arall cyhoeddedig gan J. Russell Smith,
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/264
Gwedd