ydoedd Dafydd. Y mae ei ddarlun o'r llwynog yn dra ysblenydd: yr ydym yn gweled y creadur cyfrwys hwnw o fiaen ein llygaid pan yn darllen ei gywydd darluniadol o hono. Yn y cywydd hwn yr ydym yn gweled y llwynog yn ei rawd ddystaw yn gwibio am ysglyfaeth pan oedd y bardd dan y coed wrtho ei hun. Y fath brydferthwoh sydd yn y llinell "Llamwr erw, lliw marworyn." Dyna liw y creadur yn y cywirdeb mwyaf hapus o eiddo y paentiwr mwyaf chwaethus. Y mae ei ddarluniad eto o'r ddylluan yn odidog iawn.
Cofus genym i ni fod mewn arwerthfa er ys llawer o flynyddau yn ol; a thra yn y parlwr am oriau, lle yr oedd y paentwaith o gynnyrchion goreu celfyddyd yn cael ei werthu, yr oedd ar y mur ddarlun y bachgenyn a'r Wy Euraidd yn ei ddangos i'w fam; a chymmaint oedd agosrwydd y gwaith i natur, fel yr oeddym yn colli yn aml araith yr arweithwr. Yr oedd gallu bod am ddwy fynyd heb edrych dros ein hysgwydd ar y paentwaith hwnw, yn llawn cymmaint ag a aliasem wneyd. Yr oeddym yn cael cymmaint o foddlonrwydd wrth edrych arno y tro olaf ag a gawsom y tro cyntaf! Yr un fath yn gymhwys y mae darluniadau Dafydd ab Gwilym o natur: nid oes modd i unrhyw ddyn ag sydd yn meddu llygad i weled prydferthwch anian, a chalon i deimlo anian, lai na chael ei swyno gyda'i ddarluniadau o honi.
Canodd Gruffydd Gryg, Madog Benfras, ac Iolo Goch gywyddau marwnadol tra galarus ar ol y bardd. Y mae Tudur Aled, ym marwnad G. Glyn, yn 1490, yn son am dano fel hyn: —
"Ni bu fyw neb fwy Awen
Ond da fardd Glan Teif wen,
Mab Gwilym heb gywely
Heb iddo frawd ni bydd fry."
DAFYDD AB IEUAN, o Lwyn Dafydd, oedd foneddwr yn preswylio yn y lle hwnw, ym mhlwyf Llandyssilio Gogo. Croesawodd Iarll Rhismwnt ar ei daith o Aberdaugleddau i Faes Bosworth. Anrhegodd yr Iarll ef â "chorn hirlas'* arddderchog, yr hwn sydd i'w weled yn awr yng Ngelli